Roedd dros 325 o blant ac oedolion wedi ymgynnull yng Nghanolfan Adnoddau Plas Pentwyn, Coedpoeth ddydd Sadwrn, 28 Hydref i ddathlu Calan Gaeaf mewn steil!
Bob blwyddyn mae’r pwyllgor rheoli, sy’n cynnwys 12 gwirfoddolwr lleol yn ceisio gwneud rhywbeth gwahanol. Eleni, roedd y digwyddiad yn cynnwys ystafell ‘gemau arswydus’ lle roedd aelodau’r pwyllgor yn gwneud eitemau â llaw fel blwch arswyd oedd ag ymennydd a bysedd dyn marw yn hytrach (jeli a selsig). Mae gemau eraill yn cynnwys ‘Astell Arswydus’ ac ‘Ali Tun’. Roedd yr holl gemau arswydus hyn yn cynnwys disgo, ystafell grefft a thaith ysbrydion gydag ysbrydion go iawn ar hyd y ffordd.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Dywedodd Stacey Deere, Rheolwr y Ganolfan: “Roedd y Parti Calan Gaeaf ym Mhlas Pentwyn yn llwyddiant ysgubol gyda’r gymuned leol. Roedd yn wych gweld cymaint o blant ac oedolion yn mwynhau eu hunain. Mae Plas Pentwyn yn lwcus iawn i gael Pwyllgor Rheoli mor weithgar sydd wedi ymrwymo i gynnal gweithgareddau cymunedol i bawb eu mwynhau.”
Mae’r prosiect wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU