Roedd dau fasnachwr lleol wedi derbyn gwahoddiad i Neuadd y Dref yn ddiweddar i dderbyn Gwobr Balchder Bro i gydnabod eu dewrder anhunanol.
Roedd y plastrwyr Matt Simmons a James Abbott ar eu ffordd adref o’r gwaith yn ôl ym mis Tachwedd 2022 pan ddigwyddodd yr annisgwyl.
Tra’n teithio drwy ardal Pandy yn Nyffryn Ceiriog, gwnaethant stopio’r car oherwydd aflonyddwch a phobl yn gweiddi o’u blaen. Pan wnaethant edrych ar beth oedd yn achosi’r olygfa, gwnaethant sylwi ar dŷ oedd ar dân.
Rhuthrodd James a Matt i ganol y fflamau i achub unrhyw un oedd wedi’i rwystro gan y fflamau.
Camau dewr
Cafodd ei ddisgrifio gan y dynion eu hunain fel golygfa nad oeddent erioed wedi’i gweld o’r blaen, roedd yr adeilad yn llawn mwg du gyda’r tân ei hun yn unig yn cynhyrchu unrhyw ffynhonnell o olau.
Tra’n chwilio gwnaethant glywed llais yn dod o’r ystafell fyw yn y tŷ. Dyna ble wnaethant ddarganfod deiliad oedrannus mewn cyflwr dryslyd gyda’i wallt wedi’i losgi a llosgiadau.
Rhuthrodd James a Matt i gael y deiliad allan o’r adeilad i ddiogelwch wrth iddo ddechrau cael anhawster anadlu oherwydd y mwg.
O’r tri aelod o’r eiddo, cafodd un ei achub gan aelod dienw arall o’r cyhoedd a chafodd y cwbl driniaeth yn Ysbyty Maelor yn Wrecsam. Unwaith yr oedd y criw tân ar y safle, roedd angen 20 o ddiffoddwyr tân i daclo’r fflamau.
Cydnabyddiaeth Balchder Bro
Ar ôl clywed am y stori anhygoel hon, roedd y Cynghorydd Ronnie Prince, Maer Wrecsam yn awyddus iawn i ganmol y dynion yn ffurfiol am eu dewrder.
Gwahoddwyd James a Matt i Neuadd y Dref i gyfarfod y Maer wnaeth gyflwyno Gwobr Balchder Bro iddynt a diolch iddynt am eu penderfyniad i achub bywyd.
Ar ôl cyfarfod y dynion, dywedodd y Maer: “Ar ôl i mi glywed am y gamp ryfeddol a gyflawnwyd gan James a Matt, roedd yn rhaid i mi ddiolch iddynt yn bersonol. Mae hwn yn weithred anhunanol mor arwrol ac mae’n dangos yr ysbryd cymunedol a’r balchder sy’n digwydd yn ein tref. Rydym yn edrych ar ôl ein gilydd yma a dyma enghraifft berffaith o hynny.”
“Rwy’n diolch o galon i Matt a James am yr hyn a wnaethant y noson honno. Roeddent wedi achub bywyd sy’n anhygoel ac mae’n anrhydedd cyflwyno Gwobr Balchder Bro i’r ddau ohonynt.”