Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Maer yn ymweld ag Ymdrechion Confoi Dyngarol Gwirfoddol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Maer yn ymweld ag Ymdrechion Confoi Dyngarol Gwirfoddol
Pobl a lle

Maer yn ymweld ag Ymdrechion Confoi Dyngarol Gwirfoddol

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 11, 2022 1:41 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Mayor Visits Ukraine Donation Convoy
RHANNU

Yn ddiweddar, bu Maer Wrecsam yn ymweld ag Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam lle mae gwirfoddolwyr wedi dod ynghyd i ddarparu cymorth y mae mawr ei angen ar bobl Wcráin.

Tra bod y cyfnod o bryder yn parhau, daeth pobl o bob cwr o’r DU i Wrecsam i roi help llaw neu ddod â rhoddion ar gyfer y rhai sydd wedi’u heffeithio gan oresgyniad Rwsia yn Wcráin.  Roedd ciwiau o gerbydau yn y maes parcio gydag eitemau ar gyfer yr achos, neu’n cynnig cymryd bocsys i fan gollwng oedd wedi’i drefnu.

Y tu mewn i uned F. Lloyd Warehousing, roedd gwirfoddolwyr yn trefnu rhoddion mewn i gategorïau a bocsys.  Roedd y rhain yn amrywio o fwyd, dillad a phethau ymolchi, i deganau ar gyfer y plant.  Yna cafodd y bocsys eu casglu gan wirfoddolwyr sydd wedi bod yn mynd â’r cyflenwadau at y ffin rhwng Gwlad Pwyl ac Wcráin.

Gweld pethau â’i lygaid ei hun

Cafodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Ronnie Prince ei wahodd i ddod draw i weld y gwaith diflino roedd y gwirfoddolwyr yn ei wneud yn eu hymgais i geisio helpu.

Cafodd gyfle i siarad gyda rhai o’r trefnwyr sydd wedi trefnu’r ymgais ddyngarol cyn i’r confoi gychwyn ar ei daith at y ffin.

Ar ôl gweld maint yr ymdrech a’r weithred, dywedodd: “Mae gweld cymaint o bobl yn dod ynghyd i helpu pobl yn ystod y cyfnodau anodd yn gwneud i mi deimlo’n ddiymhongar iawn.  Wrth gwrs, mae’r rheswm dros gychwyn y fenter hon yn dorcalonnus, ond mae’n ffordd arall y gall Wrecsam ddangos cryfder a chefnogaeth ag Wcráin yn ystod y cyfnodau anodd yma.”

“Fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi rhoi unrhyw beth neu sydd wedi rhoi eu hamser i becynnu’r cyflenwadau mewn i focsys neu eu cludo draw at y ffin.  Rydw i hefyd yn diolch i’r rhai sydd wedi trefnu’r cyfan.  Rydych chi gyd yn gwneud gwaith hanfodol, ac rydych chi’n glod i gymuned Wrecsam”.

Rhannu
Erthygl flaenorol Food Storage Cadw bwyd yn ddiogel – Rhan 2
Erthygl nesaf Civic Pride Presentation Plastrwyr Arwrol Lleol yn derbyn Gwobr Balchder Bro

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English