Bydd Wrecsam yn dathlu’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, a gynhelir yng nghanol tref Wrecsam, ddydd Mercher 2 Awst rhwng 12pm a 4pm, ar Sgwâr y Frenhines a Llwyn Isaf (cae Neuadd y Dref).
Gwahoddir pobl o bob oedran gan gynnwys babanod a phlant bach, plant hŷn a phobl ifanc, rhieni, gweithwyr proffesiynol a neiniau a theidiau, i ymuno yn y digwyddiad hwyliog rhad ac am ddim hwn.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
“…byddwch yn barod i fynd yn wlyb a chreu llanast!”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi: “Rwyf wrth fy modd bod y Cyngor yn cefnogi Diwrnod Chwarae Cenedlaethol eleni, hwn yw’r un diwrnod o’r flwyddyn pan fydd plant a phobl ifanc yn cael cymryd canol y dref drosodd a chael llawer o hwyl hefyd.
“Os ydych yn y dref ar 2 Awst, byddwch yn barod i fynd yn wlyb a chreu llanast ac ymuno yn y gweithgareddau.
“Byddaf yn mynychu’r digwyddiad a hoffwn ddiolch i staff a sefydliadau sy’n cefnogi’r digwyddiad am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i lwyddiant digwyddiad eleni eto.”
Bydd sefydliadau o bob rhan o Wrecsam, sy’n ymwneud â chwarae a gwaith chwarae, yn dod ynghyd i ddarparu ystod eang o gyfleoedd chwarae, gan gynnwys hen ffefrynnau megis pwll tywod enfawr, cyfle i daflu dŵr a chwarae â sothach a siglenni rhaff.
Bwriad y digwyddiad hwn yw pwysleisio hawl plant i chwarae, gan annog pobl i gydnabod gwerth chwarae i blant, eu teuluoedd a’u cymunedau lleol.
Wrth wneud hyn, mae digwyddiad diwrnod chwarae Wrecsam yn rhan o ymrwymiad parhaus yr awdurdod lleol i geisio sicrhau bod pob plentyn ar draws y fwrdeistref sirol yn cael digon o amser, lle a chaniatâd i chwarae.
Parcio am ddim
Y llynedd, daeth tua 3,000 o bobl i ymweld â digwyddiad Diwrnod Chwarae ac rydym yn gobeithio y bydd digwyddiad eleni yn fwy ac yn well, ond yr unig ffordd y gall hynny ddigwydd yw os ddaw pobl draw i ymuno yn yr hwyl.
Y cyfan rydym ni’n ei ofyn i chi yw dod yn barod i gael hwyl gyda dillad y gallwch eu gwlychu a’u baeddu.
Yn y gorffennol mae teuluoedd wedi dod â phicnic er mwyn aros drwy’r prynhawn!
I gefnogi’r digwyddiad poblogaidd hwn, mae’r cyngor yn aberth parcio am ddim mewn pob maes parcio’r cyngor yng nghanol y dref.
Er mwyn cael gwell syniad o’r mathau o bethau sy’n digwydd ar Ddiwrnod Chwarae, ewch i: www.wrecsam.gov.uk/chwarae a chliciwch ar y ddolen Diwrnod Chwarae i weld lluniau o ddigwyddiadau blaenorol.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI