Cyllid ar gael ar gyfer prosiectau i’w cynnal ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Bydd 1af Awst 2024 yn gweld cynllun Cronfa Ffyniant Cyffredinol yn ailagor ar gyfer ceisiadau mynegi diddordeb.
Gall y gronfa hon helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol. Mae’r cynllun yn cynnig rhwng £2,000 a £125,000 o gyllid i gefnogi prosiectau a fydd yn:
- Rhoi hwb i sgiliau craidd a chefnogi oedolion i ddatblygu yn eu gwaith, trwy dargedu oedolion sydd heb unrhyw gymwysterau neu sgiliau neu rai lefel isel mewn mathemateg, ac uwchsgilio’r boblogaeth weithio, drwy annog dulliau arloesol i leihau rhwystrau dysgu i oedolion.
- Gostwng lefelau o anweithgarwch economaidd trwy fuddsoddiad mewn cefnogaeth bywyd a chyflogaeth ddwys bwrpasol wedi ei theilwra i angen lleol.
- Llenwi bylchau mewn darpariaeth sgiliau lleol i gefnogi pobl i symud ymlaen mewn gwaith, ac ychwanegu at ddarpariaeth sgiliau TG oedolion lleol (er enghraifft trwy gynnig darpariaeth trwy ystod eang o ffyrdd neu alluogi darpariaeth fwy dwys/arloesol, yn seiliedig ar gymhwyster ac nad yw’n seiliedig ar gymhwyster.)
Dylai’r prosiectau fod yn ychwanegol at y ddarpariaeth sydd ar gael drwy raglenni cyflogaeth a sgiliau cenedlaethol.
Pwy all wneud cais?
- sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol sefydledig
- elusennau cofrestredig
- grwpiau neu glybiau sefydledig
- cwmnïau nid er elw neu gwmnïau buddiannau cymunedol (mentrau cymdeithasol)
- ysgolion (cyn belled bod eich prosiect er budd ac yn cynnwys y gymuned leol)
- cyrff statudol (gan gynnwys cynghorau tref, plwyf a chymuned)
- cyrff cyhoeddus
Ar beth fyddwch yn gwario’r arian?
- offer
- digwyddiadau untro
- costau staff sy’n gysylltiedig â’r prosiect
- costau hyfforddi
- cludiant sy’n gysylltiedig â’r prosiect
- costau cynnal neu gyfleustodau sy’n gysylltiedig â’r prosiect
- treuliau gwirfoddolwyr
- costau ar gyfer darparu eich prosiect yn ddwyieithog megis costau cyfieithu
- prosiectau tir neu adeiladau bach
- ailwampio adeiladau
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam ac Aelod Arweiniol Cyllid: “Mae hyn yn newyddion gwych ac rydym eisiau i fusnesau, grwpiau a sefydliadau lleol gymryd mantais lawn ohono.
“Os oes gennych brosiect a allai fod o fudd i Wrecsam a’ch cymuned, edrychwch ar y meini prawf ac ystyriwch gyflwyno cais.
“Rydym eisiau i’r arian hwn weithio’n galed i Wrecsam, ac felly rydym angen clywed gan bobl sydd â syniadau da a all wir wneud gwahaniaeth.”
Am fwy o wybodaeth, ac i ddarganfod sut i ymgeisio, plîs e-bostiwch spfkeyfundgrants@wrexham.gov.uk
Fedrwch hefyd ddarganfod mwy ar ein gwefan Cronfeydd Ffyniant Gyffredin y DU | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam