Mae pobl ifanc o Ganolfan Wobrau Agored Wrecsam ac Uned Cyfeirio Disgyblion Wrecsam wedi bod yn dathlu cyflawni Gwobrau Dug Caeredin Aur, Arian ac Efydd ar ôl 18 mis o waith caled.
Rhyngddynt, cyflawnwyd 9 gwobr aur, 7 gwobr arian a 32 gwobr efydd a wobrwywyd yn ddiweddar gan y Maer, y Cyng Rob Walsh ac athletwraig Baralympaidd Trac a Maes Prydain Sabrina Fortune.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Yno hefyd i’w llongyfarch a chefnogi eu llwyddiannau oedd Ricky Munday – sylfaenydd Inspire Alpine a choncwerwr Everest a anogodd yr holl bobl ifanc i oresgyn unrhyw heriau y byddent yn eu hwynebu yn y dyfodol.
Darparodd yr ysgrifennwr caneuon a’r perfformiwr Luke Gallagher o Wrecsam ei fath unigryw o adloniant cerddorol drwy gydol y nos.
Dydi cyflawni Gwobr Aur ddim yn dasg hawdd! Yn ystod taith o 12-18 mis, mae’r cyfranogwyr yn archwilio sgiliau a heriau newydd, yn datblygu cyfleoedd i wella eu gwybodaeth a’u galluoedd mewn pum mlynedd: Gwirfoddoli, Gweithgarwch Corfforol, Sgiliau, Teithiau yn ogystal â Gweithgareddau Preswyl. Dyma pam mai Aur yw’r lefel uchaf o wobr Dug Caeredin y gall pobl ifanc 16-23 oed ei gyflawni.
Mae Dug Caeredin Wrecsam wedi bod yn cefnogi ei bobl ifanc i gyflawni eu gwobrau am dros 30 mlynedd, gyda phobl ifanc o Wrecsam yn dewis cymryd rhan mewn amryw o ddiddordebau a gweithgareddau ac mae’r rhaglenni’n cael eu personoli yn ôl y diddordebau a’r hoffterau hyn.
“Weisiau cymryd rhan?
Os ydych chi dan 23 oed, neu’n adnabod person ifanc a fyddai’n hoffi cael yr her o wneud Gwobr Efydd, Arian neu Aur Dug Caeredin, cysylltwch â thîm Gwobr Dug Caeredin sydd wedi eu lleoli yng Nghanolfan Pobl Ifanc Victoria ar nosweithiau Llun neu Fercher ar 01978 317958 neu ffôn symudol 07800689102 o 6.00pm tan 8.30pm, fel arall anfonwch e-bost i dofe@wrexham.gov.uk.
I gael rhagor o wybodaeth am Wobr Dug Caeredin, ewch i www.DofE.org
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN