Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Prif Swyddog Addysg yn ymddeol yn 2020
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Prif Swyddog Addysg yn ymddeol yn 2020
Busnes ac addysgY cyngor

Prif Swyddog Addysg yn ymddeol yn 2020

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 13, 2019 12:46 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Ian Roberts, Wrexham Council
RHANNU

Mae bob amser yn drist nodi bod rhywun yn gadael.

Felly mae’n ddrwg gennym gyhoeddi y bydd un o’n Prif Swyddogion yn ymddeol yn 2020.

Bydd Ian Roberts, Prif Swyddog Addysg ac Ymyrraeth Gynnar, yn ymddeol o’i swydd gyda Chyngor Wrecsam ym mis Awst y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Ian: “Mae’n ddrwg gen i ddweud y byddaf yn ymddeol o fy swydd ar Awst 31 y flwyddyn nesaf.

“Dechreuais weithio i’r awdurdod ym Mai 2017, ac er ei fod yn gyfnod eithaf byr, rwyf wedi mwynhau darparu arweinyddiaeth i’r gwasanaethau addysg yn Wrecsam, hoffwn ddiolch i’r Cyngor a’r arweinyddiaeth – ar lefel wleidyddol ac ar lefel swyddog am fod mor gefnogol yn ystod fy amser yma.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

“Hoffwn hefyd ddiolch i staff yr Adran Addysg ac Ymyrraeth Gynnar, ein penaethiaid a’r cyrff llywodraethu, sydd bob amser yn dangos bwriad ac ymrwymiad i ddarparu’r addysg gorau bosibl ar gyfer plant a phobl ifanc y Fwrdeistref Sirol.

“Er bod nifer o heriau yn y dyfodol, mae cymaint i’w ddathlu yn Wrecsam. Yn benodol, mae gennym rai o’r ysgolion cynradd gorau yng Nghymru yn Wrecsam, mae ein canlyniadau yng Nghyfnod Allweddol 3 wedi gwella ac erbyn hyn uwchben cyfartaledd Cymru, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi ysgolion i gyflawni gwelliannau cynaliadwy yng Nghyfnod Allweddol 4.

“Yn ogystal â hynny, rydym yn darparu prosiectau gwych o dan raglen Ysgolion yr 21ain ganrif, gan gynnwys ysgolion newydd, ysgolion wedi’u hail-fodelu ac estyniadau.”

Ychwanegodd: “Cafodd ein Gwasanaethau Addysg eu harolygu’n ddiweddar gan y corff arolygu Estyn, ac rydym yn disgwyl y canlyniadau yn fuan.

“Byddaf, wrth gwrs, yma i ddechrau cyflawni’r gwaith fydd angen ei wneud ar ôl canlyniad yr arolwg, ac i sicrhau trosglwyddiad esmwyth i bwy bynnag fydd yn cymryd fy lle.”

Ychwanegodd Ian: “Bydd fy nyddiad gadael yn nodi 35 mlynedd i’r diwrnod y dechreuais weithio ym maes Addysg yn y sector cyhoeddus, ac rwy’n falch fy mod wedi cael cyfle i weithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam cyn penderfynu ymddeol.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol taxi Bwriadu cael tacsi adref ar ôl eich parti Nadolig? Dylech chi ddarllen hwn
Erthygl nesaf A483 Rossett to Gresford Gwaith Ffordd A483

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English