Rydym yn gweithio gyda Chatalyddion Cymunedol a phartneriaid lleol eraill ar brosiect menter gymunedol sy’n cael ei gynnal am ychydig llai na 2 flynedd i wella cymorth a chefnogaeth i bobl hŷn ac anabl yn Wrecsam.
Bydd y prosiect yn datblygu’r canolbwynt entrepreneuriaeth, creadigrwydd a diwydiant dros y blynyddoedd drwy weithio gyda phobl leol sydd am ddatblygu mentrau cymunedol bach a mentrau sy’n cynnig ystod eang o gymorth a chefnogaeth.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Yn ogystal â helpu pobl i sefydlu mentrau cymunedol newydd, bydd cyngor hefyd ar gyfer grwpiau bach a sefydliadau sydd eisoes wedi’u sefydlu yn Wrecsam sy’n ystyried arallgyfeirio neu ymestyn yr hyn maen nhw’n ei gynnig. Helpu pobl leol i helpu pobl leol eraill.
“Yn falch o fod yn gweithio gyda Chatalyddion Cymunedol”
Meddai Steve Latham-White, Rheolwr Comisiynu: “Rydym ni mor falch o fod yn gweithio gyda Chatalyddion Cymunedol i ddatblygu mentrau lleol cynaliadwy sy’n gallu ymateb i anghenion ein dinasyddion hŷn ac anabl.
Yn ogystal â bodloni’r galw lleol, bydd y rhaglen yn annog math newydd o weithlu gofal cymdeithasol, gan ddarparu cyfleoedd gwaith ychwanegol i bobl – a gweithio mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw a’u teulu ar yr adegau heriol hyn.
“Bydd y gefnogaeth am ddim gan Gatalyddion Cymunedol yn helpu darpar entrepreneuriaid i ddeall sut i ddarparu’r gofal a’r gefnogaeth orau y gallant. Buddugoliaeth i bawb!”
Er mwyn helpu i hyn ddigwydd, bydd pawb yn gweithio’n galed i ddatblygu pethau sydd eisoes yn gweithio’n dda ac i feithrin a chefnogi unigolion, grwpiau a sefydliadau sydd â gwybodaeth ac arbenigedd lleol cryf.
Nod y prosiect yw dysgu o brofiadau a rennir a defnyddio hyn yn weithredol er budd pobl drwy wella’r ffordd y mae iechyd a gofal yn gweithio yma yn Wrecsam.
Dywedodd Tom Hughes, Arweinydd y Prosiect; “Mae angen cyfleoedd ar bobl i gynhyrchu eu hincwm eu hunain rŵan fwy nag erioed, a darparu’r gefnogaeth y mae mawr ei hangen yn ein cymunedau. Rydyn ni’n ceisio helpu pobl leol i ryddhau eu creadigrwydd a’u hangerdd i gefnogi mwy o bobl yn y gymuned.”
Gallwch gysylltu â Tom dros e-bost – tom.hughes@communitycatalysts.co.uk neu drwy ei ffonio ar 07880 195114.
Mae Catalyddion Cymunedol eisoes wedi helpu un ddynes – sefydlodd Moya Pearson ei menter ei hun. Gallwch ddarllen sut mae hyn eisoes yn gweithio yn Wrecsam yma.
Gallwch hefyd ddilyn datblygiadau lleol ar Facebook aTwitter
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF