Fe lansiwyd y prosiect dwy flynedd ym mis Mawrth 2020 ac mae ardaloedd gwyrdd yn y ddwy ardal brosiect; Parc Caia a Phlas Madoc, wedi’u gwella ar ôl i fwy na 250 o wirfoddolwyr a chyfranogwyr blannu dolydd blodau gwyllt, coed a bylbiau.
Gyda’i gilydd, mae mwy na 1.2 hectar o ddolydd blodau gwyllt wedi’u hadu (a’u cynaeafu) ar draws yr ardaloedd prosiect, sy’n darparu noddfeydd gwerthfawr i’n bywyd gwyllt, yn enwedig gwenyn a gloÿnnod byw, ac mae’n gwella’r ardaloedd i bawb.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae cyfanswm enfawr o 5000 o fylbiau wedi’u plannu, ynghyd â 200 o goed ffrwythau i greu perllannau a 1500 o rywogaethau coed brodorol fel derw, bedwen arian, coed ynn, coed cyll, ffawydd, draenen ddu a draenen wen.
Mae gwaith rheoli coetir wedi’i wneud ar 3 hectar o dir hefyd ym Mharc Caia i wella mynediad ac agor ardaloedd ar gyfer hamdden a chwarae.
Dywedodd yr arweinydd prosiect Isadeiledd Gwyrdd, Jacinta Challinor, “Mae wedi bod yn ymdrech wych ac mae ymdeimlad o gymuned yn Wrecsam. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chymunedau ym Mharc Caia a Phlas Madoc yn ogystal â’n partneriaid prosiect, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Chadwch Gymru’n Daclus.
“Fe fydd yr ardaloedd dan sylw wedi’u gwella a bydd y coed yn benodol yn cyfrannu at leihau ein hôl troed carbon a chyfrannu at helpu’r effaith a welir o ganlyniad i newid hinsawdd.”
Dywedodd y Cyng David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Fe fydd y buddion parhaus i’n cymunedau i’w gweld am flynyddoedd i ddod a hoffwn ddiolch i Jacinta am ei holl waith caled a gwerthfawr dros y blynyddoedd diwethaf, gan sicrhau bod y prosiect yn parhau yn ystod y cyfnod clo hyd yn oed, trwy fynd â’r gwaith ar-lein am gyfnod.
“Mae’n rhaid i ni ddiolch i’r cymunedau lleol hefyd am eu cefnogaeth wych i’r prosiect.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH