Rydym gyd yn gwybod gall bywyd bod yn anodd i bobol ifanc.
A gallent fod yn adnoddech fyth os mai rhaid iddyn nhw ddelio gyda lles meddwl gwael – yn enwedig os nid yw’r gefnogaeth y maent yn eu hangen ar gael.
Ond yn lwcus, mae ganom ni timau o bobl frwdfrydig sy’n gweithio’n galed i ddarparu’r gwasanaeth hwn.
Ac yn well fyth, mae’r tîm wedi ennill gwobr am ei gwaith.
TRAC ac ADTRAC
Mae dau brosiect lleol wedi’u hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop yn dathlu ar ôl ennill cystadleuaeth ranbarthol ar gyfer Gwasanaethau ADTRAC 16-24 ar Ddiwrnod Ewrop.
Mae’r prosiectau TRAC ac ADTRAC yn cefnogi pobl ifanc 11-24 oed ledled Wrecsam a Sir y Fflint.
Bu’r cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog ar Draeth Talacre cyn cael cinio yng Nghanolfan Ieuenctid Treffynnon ac ymweld â Chastell y Fflint.
“Mae’r prosiect yn gwneud gwahaniaeth go iawn”
Meddai’r Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, “Llongyfarchiadau i bawb sy’n rhan o’r prosiectau TRAC ac ADTRAC ledled Wrecsam a Sir y Fflint am ennill y gystadleuaeth ranbarthol.
“Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol a dylai holl staff y prosiect a’r bobl ifanc ymfalchïo mewn cael cydnabyddiaeth o’u hymdrechion ar lefel ranbarthol.
“Mae’r prosiectau yma’n gwneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau pobl ifanc yn yr ardal, a hoffwn ddiolch i bawb am wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant.”
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Hwn oedd y tro cyntaf erioed i rai o’r bobl ifanc ymweld â thraeth a chastell, a rhoddodd y diwrnod gyfle iddynt fwynhau rhai o atyniadau lleol gogledd ddwyrain Cymru.
Rhoddodd y digwyddiad gyfle i bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiectau i fwynhau diwrnod llawn hwyl a chael cefnogaeth lles gan eu Mentoriaid Ymgysylltu Ieuenctid i feithrin eu hyder a’u hunan-barch.
Ar ôl y diwrnod, esboniodd un o’r bobl ifanc fod ei hyder wedi codi’n aruthrol ers bod yn gweithio gyda’i Fentor, a’i fod bellach yn medru siarad yn agored am ei deimladau.
“Cymorth i’r Unigolyn”
Mae prosiectau TRAC ac ADTRAC yn cael eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac maent yn cynnig cefnogaeth wedi’i deilwra ar gyfer yr unigolyn i bobl ifanc rhwng 11 a 24 mlwydd oed, i ddymchwel rhwystrau a’u helpu i ymgysylltu â’u haddysg neu i fynd ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant.
Cewch wybod mwy am y prosiect ADTRAC ewch i’r wefan neu cysylltwch â thîm ADTRAC Wrecsam a Sir y Fflint ar ADTRAC@wrexham.gov.uk i gael rhagor o fanylion ynghylch y broses atgyfeirio ar gyfer sefydliadau, yn ogystal â hunan-atgyfeiriadau.
I gael mwy o wybodaeth am brosiect TRAC ewch i’r wefan hon neu e-bostiwch TRAC@wrexham.co.uk
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN