Fe fydd prydau ysgol yn cael eu darparu pan fydd plant yn dychwelyd i’r ysgol yr wythnos nesaf – ond mae’n bosibl y byddant yn cael eu gweini’n wahanol.
Er mwyn lleihau cyswllt rhwng staff a disgyblion mae ein gwasanaeth prydau ysgol wedi adolygu’r bwydlenni presennol ac wedi eu newid ychydig i gylch pythefnos fel y gallant i gyd gael eu gweini mewn cynwysyddion untro ac fe fyddant yn defnyddio cyllyll a ffyrc y mae modd eu compostio.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Fe fydd gan bob ysgol ei threfniadau ei hun ar gyfer gweini prydau ysgol ond mae’n hynod debygol y bydd yr amseroedd bwyta wedi eu gwasgaru. Bydd rhai prydau’n cael eu cludo’n uniongyrchol i’r ystafell ddosbarth gyda nifer fechan o ddisgyblion yn defnyddio’r ardaloedd bwyta.
Mae hefyd yn debygol y gofynnir i ddisgyblion archebu eu bwyd ymlaen llaw i helpu’r gwasanaeth i fod mor effeithlon â phosibl.
Gofynnir i rieni dalu ar-lein am eu prydau ysgol ac i’r disgyblion hynny sy’n mynychu’r ysgol uwchradd am y tro cyntaf eleni fe fyddant yn cael rhif pin 10 digid newydd. Os nad yw’r ysgol eisoes wedi rhoi’r rhif hwn i chi, fe allwch gysylltu ag aelod o’r tîm arlwyo yn Ffordd Rhuthun drwy anfon e-bost at schoolmeals@wrexham.gov.uk
Os ydych yn awyddus i weld y bwydlenni ewch i dudalen facebook y gwasanaeth prydau ysgol yma: https://www.facebook.com/wxmschoolmeals
YMGEISIWCH RŴAN