Os ydych yn berchennog ci, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen hwn.
Rydym wedi cael sawl ymholiad dros yr wythnos ddiwethaf lle mae perchnogion cŵn pryderus wedi gofyn i ni am Alabama Rot.
Gallwn eich sicrhau nad oes unrhyw achosion hysbys o Alabama Rot ar hyn o bryd ym mharciau gwledig Wrecsam.
Os ydych yn bryderus, y cyngor yw i lanhau traed eich ci gyda dŵr – gwnewch hyn pan rydych yn mynd adref os gwelwch yn dda i osgoi heintio rhannau o’r parc – sicrhewch eich bod yn tynnu’r holl bridd a mwd sydd wedi dod o’r coetir.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Beth yw’r arwyddion?
- Yn gyntaf, chwiliwch am anafiadau i’r croen, sy’n ymddangos fel chwydd, croen sy’n goch neu anafiadau agored sydd fel briwiau.
- Fe all eich ci hefyd fod â chroen dolurus nad yw wedi ei achosi gan anaf (fel arfer o dan y pen-glin)
- Yn olaf, ar ôl 2-7 diwrnod, bydd eich ci yn dangos arwyddion o fethiant yr arennau – chwydu, llai o chwant bwyd a blinder anarferol.
Os ydych yn canfod unrhyw rai o’r symptomau hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â’ch milfeddyg cyn gynted â phosibl.
Cofiwch gallwch fod yn dawel eich meddwl nad oes unrhyw achos o’r clefyd wedi dod i’r amlwg yn ardal Wrecsam ers 2106, ond os yw’r sefyllfa yn newid yna fe fyddwn yn sicrhau fod pobl yn ymwybodol o hynny.
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.