Wrth i ni nesáu at y ras olaf o siopa Nadolig cyn y diwrnod mawr, mae’n debyg mai eich bwriad fydd gwneud llawer o’ch siopa ar-lein.
Mae tîm Safonau Masnach Wrecsam yn cynghori siopwyr i gadw llygad ar wiriadau diogelwch ar-lein sylfaenol wrth brynu nwyddau neu anrhegion ar-lein – a dim ond ychydig o eiliadau y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn eu cymryd i’w gwneud.
Mae ymchwil gan Safonau Masnach Cenedlaethol yn dangos bod mwy na dau draean o siopwyr yn hepgor y gwiriadau diogelwch allweddol – gan roi eu hunain mewn perygl o dwyll.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
A does neb eisiau rhoi eu hunain mewn perygl o golli arian cyn y Nadolig.
Gwiriadau sylfaenol i gadw eich hun yn ddiogel
Os byddwch yn prynu cynnyrch gan werthwr ar-lein, dyma ychydig o bethau sylfaenol y gallwch eu gwneud i gadw eich hun yn ddiogel rhag twyll.
- Peidiwch â chael eich denu gan gynigion hysbysebu neu ostyngiadau a rennir ar gyfryngau cymdeithasol – gall y rhain edrych yn ddeniadol, ond yn aml dolen ydyn nhw i wefannau copi, lle gall twyllwyr ddwyn eich manylion.
- Edrychwch am adolygiadau o’r cynnyrch neu’r adwerthwr/gwerthwr – a gofynnwch i chi eich hun a ydyn nhw’n edrych yn ddilys.
- A oes llawer o gamgymeriadau sillafu neu ramadegol ar y wefan? Os felly, gallai hynny fod yn awgrym nad yw’r busnes yn cael ei redeg yn broffesiynol.
- Gwnewch yn siŵr bod gan y wefan gyfeiriad wedi’i amgryptio – bydd hyn yn dangos os bydd symbol clo clap yn y bar tasgau (lle rydych yn teipio’r cyfeiriad), neu os oes “s” ar ddiwedd rhan “http” y cyfeiriad. Os felly, mae’n golygu bod y wefan yn defnyddio system wedi’i amgryptio, sy’n cadw eich manylion yn ddiogel.
- Oes gan y cwmni rif llinell dir y gallwch ei ffonio os byddwch yn cael unrhyw broblemau?
- Darllenwch y print bach – sylwch a oes unrhyw beth yn ymddangos yn rhyfedd, yn ailadroddus neu’n anghywir yn Saesneg.
- Peidiwch â chael eich twyllo gan fargen amhosibl – os bydd rhywbeth yn edrych yn rhy dda i fod yn wir, dyma’r achos fel arfer.
- Cofiwch fod twyllwyr yn ecsbloetio cynnyrch sydd â galw uchel – os bydd siopau’n rhedeg allan o bethau fel teganau a gemau, bydd twyllwyr yn gwerthu fersiynau tebyg o ansawdd gwael. Peidiwch â phrynu mewn panig – gwnewch ychydig o wiriadau synnwyr cyffredin fel y rhai uchod a gwnewch yn siŵr nad ydych yn rhoi eich manylion i droseddwr.
Os credwch fod unrhyw werthwr ar-lein neu wyneb yn wyneb yn gwerthu nwyddau a all fod yn beryglus, neu fod rhywbeth rydych wedi’i brynu yn gwneud i chi deimlo’n amheus, dywedwch wrth Gyngor ar Bopeth drwy ffonio’r Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr ar 03454 04 05 06.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU