Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Prynu eich anrhegion Nadolig ar-lein? Darllenwch hwn yn gyntaf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Fly Tipping
Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Arall Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Prynu eich anrhegion Nadolig ar-lein? Darllenwch hwn yn gyntaf
Pobl a lleY cyngor

Prynu eich anrhegion Nadolig ar-lein? Darllenwch hwn yn gyntaf

Diweddarwyd diwethaf: 2017/12/13 at 12:22 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Prynu eich anrhegion Nadolig ar-lein? Darllenwch hwn yn gyntaf
RHANNU

Wrth i ni nesáu at y ras olaf o siopa Nadolig cyn y diwrnod mawr, mae’n debyg mai eich bwriad fydd gwneud llawer o’ch siopa ar-lein.

Mae tîm Safonau Masnach Wrecsam yn cynghori siopwyr i gadw llygad ar wiriadau diogelwch ar-lein sylfaenol wrth brynu nwyddau neu anrhegion ar-lein – a dim ond ychydig o eiliadau y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn eu cymryd i’w gwneud.

Mae ymchwil gan Safonau Masnach Cenedlaethol yn dangos bod mwy na dau draean o siopwyr yn hepgor y gwiriadau diogelwch allweddol – gan roi eu hunain mewn perygl o dwyll.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

A does neb eisiau rhoi eu hunain mewn perygl o golli arian cyn y Nadolig.

Gwiriadau sylfaenol i gadw eich hun yn ddiogel

Os byddwch yn prynu cynnyrch gan werthwr ar-lein, dyma ychydig o bethau sylfaenol y gallwch eu gwneud i gadw eich hun yn ddiogel rhag twyll.

  • Peidiwch â chael eich denu gan gynigion hysbysebu neu ostyngiadau a rennir ar gyfryngau cymdeithasol – gall y rhain edrych yn ddeniadol, ond yn aml dolen ydyn nhw i wefannau copi, lle gall twyllwyr ddwyn eich manylion.
  • Edrychwch am adolygiadau o’r cynnyrch neu’r adwerthwr/gwerthwr – a gofynnwch i chi eich hun a ydyn nhw’n edrych yn ddilys.
  • A oes llawer o gamgymeriadau sillafu neu ramadegol ar y wefan? Os felly, gallai hynny fod yn awgrym nad yw’r busnes yn cael ei redeg yn broffesiynol.
  • Gwnewch yn siŵr bod gan y wefan gyfeiriad wedi’i amgryptio – bydd hyn yn dangos os bydd symbol clo clap yn y bar tasgau (lle rydych yn teipio’r cyfeiriad), neu os oes “s” ar ddiwedd rhan “http” y cyfeiriad. Os felly, mae’n golygu bod y wefan yn defnyddio system wedi’i amgryptio, sy’n cadw eich manylion yn ddiogel.
  • Oes gan y cwmni rif llinell dir y gallwch ei ffonio os byddwch yn cael unrhyw broblemau?
  • Darllenwch y print bach – sylwch a oes unrhyw beth yn ymddangos yn rhyfedd, yn ailadroddus neu’n anghywir yn Saesneg.
  • Peidiwch â chael eich twyllo gan fargen amhosibl – os bydd rhywbeth yn edrych yn rhy dda i fod yn wir, dyma’r achos fel arfer.
  • Cofiwch fod twyllwyr yn ecsbloetio cynnyrch sydd â galw uchel – os bydd siopau’n rhedeg allan o bethau fel teganau a gemau, bydd twyllwyr yn gwerthu fersiynau tebyg o ansawdd gwael. Peidiwch â phrynu mewn panig – gwnewch ychydig o wiriadau synnwyr cyffredin fel y rhai uchod a gwnewch yn siŵr nad ydych yn rhoi eich manylion i droseddwr.

Os credwch fod unrhyw werthwr ar-lein neu wyneb yn wyneb yn gwerthu nwyddau a all fod yn beryglus, neu fod rhywbeth rydych wedi’i brynu yn gwneud i chi deimlo’n amheus, dywedwch wrth Gyngor ar Bopeth drwy ffonio’r Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr ar 03454 04 05 06.

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwobr Chwaraeon yn cydnabod arwyr heb dderbyn clod, meddai hyfforddwr Gwobr Chwaraeon yn cydnabod arwyr heb dderbyn clod, meddai hyfforddwr
Erthygl nesaf street pastors Gofalu, Gwrando, Helpu. Cyfarfod â Gweinidogion Stryd Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Ionawr 20, 2026
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 20, 2026
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Busnes ac addysgPobl a lle

Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn

Ionawr 20, 2026
David Ebsworth
DigwyddiadauPobl a lle

Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol

Ionawr 20, 2026
Rhos library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos

Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Pobl a lle

Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 19, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English