Mae trydedd wythnos y gwyliau haf wedi cyrraedd ac mae llawer o ddigwyddiadau’n dal i gael eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol. Yr wythnos hon rydym wedi dewis digwyddiadau y gall eich plant gymryd rhan ynddynt am gost lai na £1!
Anifeiliaid Pom Pom– 50c
Os yw’ch plentyn rhwng 5 a 12 oed, galwch heibio i Lyfrgell Wrecsam ddydd Llun 7 Awst, 11am – 12pm, a gadewch iddynt fynegi eu creadigrwydd. Mae’r sesiwn grefftau anifeiliaid pom pom yn costio 50c yn unig. Rhaid archebu lle, felly ffoniwch 01978 292090 i gael rhagor o wybodaeth.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Darnau Arian Rhufeinig – £1
Mae Amgueddfa Wrecsam yn cynnal sesiwn greu ar y thema darnau arian Rhufeinig ddydd Mawrth 8 Awst, 10.30am – 12.30pm. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch yr amgueddfa ar 01978 297460.
Chwaraeon a Gemau – AM DDIM
Gall pobl ifanc 8-14 oed alw heibio i Barc Bellevue am sesiwn chwaraeon a gemau am ddim ddydd Mercher 9 Awst, 1 – 3pm. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01978 763140.
Ffilm yr Haf – £1
Os yw’r tywydd yn gymylog neu’n wlyb, neu os ydych am wneud dim byd ond eistedd i lawr gyda ffilm dda a phopgorn – dewch draw i Ganolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt am 2pm ddydd Iau 10 Awst. Am £1 yn unig, gallwch wylio’r ffilm Moana a mwynhau diod a phopgorn. Am fwy o wybodaeth a thocynnau ffoniwch 01978 722880.
Llyfrau Tu Mewn Allan – 50c
Ac yn olaf, gall plant 7-10 oed ddod draw i weithdy ysgrifennu creadigol ar y thema anifeiliaid yn Llyfrgell Wrecsam ddydd Gwener 11 Awst, 1 – 2.30pm. Rhaid archebu lle, felly ffoniwch 01978 292090 i gael rhagor o wybodaeth.
Y tro nesaf: Pum peth i’w gwneud dan do!
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI