Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Helpwch ni i gael yr Hawliau Tramwy yn Gywir
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Helpwch ni i gael yr Hawliau Tramwy yn Gywir
Pobl a lle

Helpwch ni i gael yr Hawliau Tramwy yn Gywir

Diweddarwyd diwethaf: Awst 7, 2017 10:03 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Helpwch ni i gael yr Hawliau Tramwy yn Gywir
RHANNU

Ydych chi’n rhywun sy’n hoffi mynd i gerdded neu ymarfer corff yn yr awyr agored yn Sir Wrecsam?

Boed hynny’n loncian, cerdded neu fynd â’r ci am dro, fe allai’r ymgynghoriad hwn fod o ddiddordeb i chi.

Rydym yn adolygu ein Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (ROWIP), ac rydym ni’n gofyn am awgrymiadau gan bobl i weld sut allwn ni wella pethau.

Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn effeithio ar lwybrau ceffylau, llwybrau troed a llwybrau eraill o amgylch y fwrdeistref sirol – mae rhai o’r rhain yn cynnwys safleoedd megis Safle Treftadaeth Traphont Ddŵr Pontycysllte, ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Rydym eisiau sicrhau fod Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn cwrdd â disgwyliadau, a dyna pam rydym ni’n annog unrhyw un sy’n defnyddio’r llwybrau i gymryd rhan.

Helpwch ni i gael yr Hawliau Tramwy yn Gywir

Yr hyn yr hoffem ei wybod?

Rydym yn awyddus i wirio gwybodaeth sylfaenol sy’n ymwneud â Hawliau Tramwy Cyhoeddus – megis faint o bobl sy’n eu defnyddio, a pha mor aml y maent yn eu defnyddio.

I gychwyn, nid ydi’r arolwg yn berthnasol i balmentydd ger ffyrdd neu drwy ystadau, ffyrdd prysur neu lwybrau yng nghanol trefi.

Ond fe hoffem wybod beth ydi blaenoriaethau pobl ar gyfer cynnal a chadw a gwella’r llwybrau hyn – er enghraifft, a fyddai pobl yn dymuno gweld giatiau i gerddwyr yn hytrach na chamfeydd er mwyn gwella mynediad.

Ydyn nhw eisiau i ni gynnal gwaith strimio yn rheolaidd a gwella arwyneb y llwybrau troed?

A hoffent fwy o wybodaeth am leoliad y llwybrau yma, a pha grwpiau cerdded y gallent ymuno â nhw?

Neu efallai bod pobl eisiau gweld Llwybrau Tramwy Cyhoeddus newydd sbon yn Wrecsam? Os mai dyma’r sefyllfa, ymhle hoffech chi nhw?

Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn defnyddio Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar hyd a lled Wrecsam a’u bod yn eu hystyried yn ased ardderchog – maent yn ffordd wych o fynd i archwilio’r amgylchedd o’n hamgylch.

“Ond os oes yna unrhyw ffordd y gallwn eu gwella neu os ydi pobl yn credu y dylem newid unrhyw beth, yna mae hynny’n rhywbeth y dylem fod yn ymwybodol ohono, felly buaswn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gymryd rhan yn yr arolwg.”

Dim ond saith cwestiwn sydd yn yr arolwg, ac nid yw’n cymryd llawer o amser i’w lenwi – i gymryd rhan, cliciwch ar y ddolen hon.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Frog eating popcorn Pum peth i’w gwneud am bunt neu lai!
Erthygl nesaf Mentoring meeting Angen help i fynd yn ôl i weithio?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English