Ar ôl ei agor, bydd yr adeilad rhestredig Gradd II yn darparu lleoedd y gall sefydliadau ac unigolion yn sector y diwydiannau creadigol eu rhentu, gan roi hwb i uchelgeisiau creadigol a diwylliannol Wrecsam.
Dyma’r tro cyntaf ers 1974 y bydd yr adeilad yn hygyrch i’r cyhoedd.
Bydd yr estyniad dur a gwydr newydd yn ganolbwynt lleol ac yn ofod ar gyfer siop goffi neu gaffi newydd yng nghanol y ddinas. Os oes gennych ddiddordeb mewn rhentu’r gofod hwn ac os hoffech ragor o fanylion, gallwch gysylltu â’n hasiant Forge Property Consultants Ltd, Syrfewyr Siartredig, Prisiwyr, Asiantau Tir ac Eiddo; Ff: 01978 799059 S: 0783 4545974.
Ers y diweddariad blaenorol, mae’r gwaith wedi bod yn mynd rhagddo’n brysur ac mae’n cynnwys:
Gwaith Allanol
Trydan, gosod rhyngrwyd cyflym, dargyfeirio draeniau.
Gwaith ar y Ffasâd a’r To
Gwaith to cyffredinol; ail-lechu’r to, gosod goleuadau to, ailosod ffenestri ffrâm metel a phren allanol.
Mae’r gwaith mewnol sy’n mynd rhagddo yn cynnwys
Trwsio plastr ac addurno gan gynnwys nenfydau, rafftiau a rhaniadau. Gosod lifft, gosod trydan, gwydr eilaidd, gosod drysau a sgriniau mewnol, gosod cyfleusterau ystafell ymolchi gan gynnwys teilio, gosod cegin. Ail-osod lloriau parquet wedi’u trwsio a’u hadfer, creu griliau llawr haearn bwrw.
Estyniad gwydr
Gosod pyst seiliau, gwaith sylfaen, ffrâm ddur a slab concrit wedi’i gwblhau
Mae’r gwaith gosod murlenni a’r to gwydr yn mynd rhagddo a bron wedi’i gwblhau.
Yn allanol, mae’r babell a’r sgaffald a osodwyd yn ystod y gwaith adnewyddu yn cael eu tynnu.
Uchelgais creadigol a diwylliannol
Mae datblygu’r ganolfan greadigol hon yng nghanol y ddinas yn brosiect cyffrous arall ac mae’n rhan ganolog o ymgyrch cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029. Mae gan Wrecsam sîn greadigol amrywiol a sefydledig a bydd y cyfleuster newydd hwn yn cefnogi datblygiad y sector hwn ymhellach. Byddai ennill teitl 2029 yn drawsnewidiol i seilwaith diwylliannol Wrecsam, bydd yr hyb creadigol newydd yn helpu i gefnogi busnesau i wireddu eu huchelgeisiau, a bydd hynny yn cryfhau ein cais Wrecsam2029.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Wrecsam a’r Aelod Arweiniol dros Asedau, y Cynghorydd Mark Pritchard, “Wedi’i hagor yn wreiddiol gan Syr Foster Cunliffe o Neuadd Acton ar 15 Chwefror 1907, bydd yr Hen Lyfrgell yn ailagor cyn bo hir ar ôl gwaith adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd a dalwyd drwy arian grant. “Ein huchelgais ar gyfer yr adeilad rhestredig Gradd II hwn sydd newydd ei adnewyddu yw iddo ddod yn ganolbwynt ac yn hyb i’r diwydiannau creadigol yn lleol ac ymhellach i ffwrdd. “Mae adnewyddu’r adeilad amlwg hwn yng nghanol y ddinas yn ein hatgoffa o’n gorffennol, ond hefyd yn helpu i wireddu ein huchelgeisiau i ddenu busnesau creadigol o ansawdd uchel i Wrecsam.”
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Nigel Williams “Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid allanol i wella golwg ac ymarferoldeb canol ein dinas sy’n prysur ddatblygu. “Mae’n dilyn prosiectau adnewyddu llwyddiannus ar nifer o ffryntiau siopau, trawsnewid lloriau uchaf gwag yn llety preswyl, adnewyddu’r Farchand Gig a Chyffredinol drwy’r Cynllun Treftadaeth Treflun, a gwelliannau i’r Stryd Fawr ac ardal gyhoeddus canol y ddinas trwy gyllid gan CDLC a Chronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Mae’r cyllid grant wedi caniatáu inni drawsnewid yr adeilad hanesyddol hwn, sydd wedi’i danddefnyddio tan nawr, yn Hyb Creadigol ffyniannus fydd o fudd i’r ddinas, a sicrhau ei fod yn cyfrannu tuag at wireddu gweledigaeth ac amcanion strategol y ddinas a’r rhanbarth. Gweledigaeth CBSW yw creu canolfan hyblyg, ynni-effeithlon, greadigol sy’n cyfuno diwylliant, technoleg a chynaliadwyedd dan arweiniad sefydliadau, entrepreneuriaid a busnesau o sector y diwydiannau creadigol, oll wedi eu gyrru yn eu blaen gan ymdeimlad cryf o bwrpas.































