Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod
Pobl a lleY cyngor

Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 23, 2025 12:30 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod
RHANNU

Mae Cronfa Gwaddol Ieuenctid wedi buddsoddi £3.5 miliwn i beilota dull therapiwtig i ddiogelu plant diamddiffyn ar draws pedwar ardal awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r rhaglen therapiwtig ddwys yn y cartref o’r enw Therapi Aml-Systemig ar gyfer Camdriniaeth ac Esgeulustod Plant (MST-CAN), yn gweithio gyda’r holl deulu i leihau’r risg i blant a chefnogi rhianta diogel ac effeithiol.

Yn ystod y peilot, bydd cefnogaeth yn cael ei roi i deuluoedd yn Leeds, Sandwell, Wrecsam a Sir y Fflint lle mae plant 6-17 oed mewn risg o fynd i ofal yn sgil esgeulustod a/neu gamdriniaeth gorfforol.  Bydd therapyddion wedi’u hyfforddi yn gweithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd yn eu cartrefi i fynd i’r afael â phryderon diogelwch presennol yn ogystal â phroblemau sylfaenol, megis trawma a chamddefnyddio sylweddau, a all fod yn cyfrannu tuag at y niwed, gan ddefnyddio ystod o ddulliau yn seiliedig ar dystiolaeth.

Mae plant sydd mewn risg o gamdriniaeth neu esgeulustod yn aml yn wynebu cyfuniad cymhleth o heriau, a gall eu teuluoedd ei gweld yn anodd cael mynediad at y cymorth iawn. Mae MST-CAN wedi’i ddylunio i ddarparu gofal estynedig, cyfannol, sy’n helpu teuluoedd i lywio’r anawsterau hyn ac adeiladu’r gallu i ofalu am eu plant yn ddiogel.

Bydd y rhaglen yn cael ei gynnal dros 6-9 mis a’i ddarparu gan Dîm Multisystemic Therapy UK and Ireland yn Ne Llundain ac Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Maudsley, mewn partneriaeth â Chyngor Tref Leeds, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Ymddiriedolaeth Plant Sandwell MST-UKI a’i werthuso gan Brifysgol Caint mewn cydweithrediad â Phrifysgol Teesside.

Mae’r peilot yn rhan o ymrwymiad ehangach Cronfa Gwaddol Ieuenctid i adeiladu sail dystiolaeth o ran beth sy’n gweithio i gadw plant yn ddiogel rhag niwed a sicrhau y gall plant dyfu mewn cartrefi sefydlog a chefnogol.  

Dywedodd Ciaran Thapar, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus Cronfa Gwaddol Ieuenctid: “Nod y gwaith yw cynyddu diogelwch plant, gwella sgiliau rhianta a mynd i’r afael â materion sylfaenol ar gyfer oedolion a phlant.  Mae’r dystiolaeth gynnar yn addawol, a bydd y peilot yn ein helpu ni i ddeall mwy am effeithiau posibl y dull hwn.”

Dywedodd Craig Macleod, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Sir y Fflint “Mae awdurdod lleol Sir y Fflint yn falch o fod yn rhan o’r prosiect peilot pwysig hwn, a fydd yn ymchwilio a datblygu ein dealltwriaeth o sut allwn ni weithio gyda phlant a theuluoedd, fel eu bod yn cael eu cefnogi i wneud, a chynnal, newid cadarnhaol. Mae ein cyfranogiad yn dangos ein hymrwymiad cryf i helpu teuluoedd gyda chefnogaeth amserol ac effeithiol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda theuluoedd a dysgu o ymchwil er mwyn llywio sut allwn gynnig y gefnogaeth orau bosibl.”

Dywedodd Nicola Holmes, Rheolwr Hwb Ymyrraeth o Ymddiriedolaeth Plant Sandwell: “Rydym wrth ein boddau bod Ymddiriedolaeth Plant Sandwell yn rhan o grant Cronfa Gwaddol Ieuenctid. Rydym yn gwybod bod effaith ar blant sydd wedi cael eu hesgeuluso neu eu cam-drin yn gorfforol yn anferth ac mae cael y gwasanaethau iawn i gefnogi plant a’u teuluoedd ar yr amser iawn yn bwysig, a gall arwain at newid cadarnhaol a chanlyniadau gwell.  Bydd yr ymchwil yn edrych ar y gwasanaethau sydd eisoes yn Sandwell, ynghyd â’r tîm MST-CAN newydd, i weld beth sy’n gweithio orau i blant a’u teuluoedd. Ar gyfer teuluoedd yn Sandwell, credwn y bydd y grant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae’r tîm MST-CAN yn gweithio ar y cyd ag ystod eang o wasanaethau ac yn adeiladu partneriaethau pwysig er mwyn cefnogi plant a’u teuluoedd yn y ffordd orau bosibl. Maent eisoes yn gweithio gyda nifer o deuluoedd yn Sandwell, ac edrychwn ymlaen at weld canlyniadau’r astudiaeth ac yn bwysicach, y canlyniadau ar gyfer ein teuluoedd.”

Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae Wrecsam yn gyffrous i fod yn rhan o’r peilot arloesol sydd wedi ein galluogi ni i ehangu ein cynnig Therapi Aml-systemig ar gyfer teuluoedd er mwyn cynnwys MST-CAN. Y gobaith yw y bydd hyn yn cefnogi teuluoedd ymhellach a galluogi plant i aros yn ddiogel yng ngofal eu teuluoedd.”

Dywedodd yr Athro Simon Coulton o Brifysgol Caint: “Rwy’n falch o fod yn arwain y tîm ymchwil ar werthuso’r prosiect pwysig hwn sy’n cyd-weithio gyda Chronfa Gwaddol Ieuenctid a’r Awdurdodau Lleol i gyflawni’r gwaith hwn.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Pentref Wrecsam Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 
Erthygl nesaf Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English