A oes rhywun sy’n eich ysbrydoli?
Mae Gwobrau Dewi Sant yn cydnabod gweithredoedd da a chyflawniadau unigolion a grwpiau sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar hyd a lled Cymru.
Dewch i’w dathlu drwy enwebu eich Sant cyfoes! Rhaid i chi gyflwyno eich enwebiadau cyn Hydref 16, felly peidiwch â cholli’ch cyfle.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Gwobrau Cenedlaethol Cymru sy’n cydnabod pobl sy’n ysbrydoli yw Gwobrau Dewi Sant. Does dim rhaid i’r rhai a enwebir fod yn ddinasyddion y DU na byw yng Nghymru, ond mae’n rhaid iddyn nhw fod â chyswllt ystyrlon â Chymru. Prif Weinidog Llywodraeth Cymru a’i gynghorwyr fydd yn penderfynu pwy sy’n deilwng ac yn dewis yr enillwyr.
Mae yna naw Gwobr Dewi Sant bob blwyddyn, ac mae’r wyth cyntaf yn cael eu henwebu gan y cyhoedd.
Dyma’r categorïau:
- Dewrder
- Dinasyddiaeth
- Diwylliant
- Menter
- Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Rhyngwladol
- Chwaraeon
- Person Ifanc
- Gwobr Arbennig y Prif Weinidog
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw 16 Hydref, felly brysiwch, da chi!
I ddarllen mwy am y gwobrau ac i enwebu rhywun
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU