Fel rhan o raglen digwyddiadau Cofio Gresffordd, i goffau 90 mlynedd ers y drychineb, cynhelir perfformiad cerddorol byw, am ddim yn yr Ardal Fwyd gan DENNIS; Band Pres Pop Roc a Glofaol Gwerin o dref pwll Hetton (Swydd Durham). Mae eu hethos, eu caneuon a’u geiriau yn frodorol i ddosbarth gweithiol a threftadaeth ddiwylliannol.
Bydd y noson yn dechrau am 6pm gyda pherfformiad gan Andy Hickie; canwr a chyfansoddwr gwerin dwyieithog o Wrecsam. I ddilyn, bydd perfformiad awr o hyd gan DENNIS.
Mae DENNIS wedi perfformio yn Glastonbury, ynghyd â llu o wyliau eraill, gan adeiladu ar sioeau theatr a werthodd bob tocyn mewn lleoliadau fel Theatr Gala Durham, Live Theatre Newcastle a Sage Gateshead.
Mae’r datganiadau yn cynnwys LP ‘Open Your Eyes’, tri EP blaenorol a rhyddhad byw yn ‘Redhills Miners Hall’, sydd ar gael ar fformatau corfforol a holl wasanaethau ffrydio.
Mae DENNIS wedi darlledu ar draws nifer o orsafoedd radio (gan gynnwys BBC Radio 2, Radio 6, Introducing a sioeau lleol y BBC), sianeli cerddoriaeth amrywiol (mae rhai fideos yn cynnwys actorion nodedig) ac wedi derbyn cefnogaeth hael gan flogiau a’r Wasg Genedlaethol.
Bydd Ardal Fwyd a Bar Tŷ Pawb ar agor i gael lluniaeth. Mae’r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer pob oedran. Mae croeso cynnes i bawb.
Cofrestrwch i gael newyddlen Tŷ Pawb yn syth i’ch blwch negeseuon
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Tŷ Pawb i ddangos gemau Cynghrair y Cenhedloedd Cymru