Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ar feini prawf addasrwydd wedi’u hadolygu ar gyfer y safonau sy’n berthnasol i yrwyr cerbydau hurio preifat a cherbydau hacni, y cerbydau eu hunain a gweithredwyr.
Mae ein safonau presennol ar gyfer gyrwyr tacsi, cerbydau a gweithredwyr yn dangos nad ydynt yn gyson â safonau’r DU ar hyn o bryd a gyhoeddir gan yr Adran Drafnidiaeth na chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae angen diwygio’r meini prawf addasrwydd er mwyn cydymffurfio â safonau’r Adran Drafnidiaeth a chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Rydym yn ceisio barn pobl ar feini prawf addasrwydd wedi’u hadolygu er mwyn eu hystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol am eu mabwysiadu gan y Pwyllgor Trwyddedu Amgylcheddol. Rydym yn ceisio barn gyrwyr, gweithredwyr, perchnogion cerbydau, cyrff masnachu, defnyddwyr tacsis, grwpiau defnyddwyr, trigolion y Fwrdeistref Sirol ac unrhyw un arall â diddordeb.
Mae’r holl wybodaeth ar gael ar Eich Llais Wrecsam. Cliciwch ar Meini Prawf Addasrwydd ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat a Cherbydau Hacni lle gallwch weld dogfennau perthnasol a darparu adborth.
Dylid anfon ymatebion a sylwadau at licensingservice@wrexham.gov.uk
Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd ac os hoffech wybod mwy am hyn ac ymateb, ffoniwch y rhif ymgysylltu ar 01978 292270 a gadewch eich enw a’ch rhif ffôn a byddwn yn cysylltu â chi.
Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw dydd Llun 11 Rhagfyr.