Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cau Siop Fêp yng Nghanol Dinas Wrecsam am 3 mis
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cau Siop Fêp yng Nghanol Dinas Wrecsam am 3 mis
Y cyngorPobl a lle

Cau Siop Fêp yng Nghanol Dinas Wrecsam am 3 mis

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 1, 2023 2:37 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Cau Siop Fêp yng Nghanol Dinas Wrecsam am 3 mis
RHANNU

Mae llys ynadon Wrecsam wedi cyhoeddi gorchymyn llys (dydd Mercher 29 Tachwedd) i gau siop fanwerthu yn 30 Stryt Fawr yng nghanol dinas Wrecsam am 3 mis hyd at 28 Chwefror 2024.

Gwnaed y cais am y gorchymyn gan Swyddogion Safonau Masnach o Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor yn dilyn  hanes o gyflenwi cynnyrch fêpio anghyfreithlon gan “The Vape Shop” oedd wedi bod yn masnachu yn y cyfeiriad. Ym mis Medi 2023, cafodd dros 3,000 o fêps tafladwy anghyfreithlon eu hatafaelu gyda gwerth masnachol o tua £30,000. 

Mae swyddogion wedi ymgysylltu â pherchennog y busnes, Mr Akram Kadir, i egluro’r gyfraith a sut i osgoi cynnyrch anghyfreithlon. Er hyn, mae profion prynu fêps yn ddiweddar wedi dangos bod y siop wedi parhau i werthu cynnyrch anghyfreithlon.

Mae fêpio wedi dod yn fwy a mwy poblogaidd yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf ac fe’i cydnabyddir yn eang fel ffordd effeithiol o roi’r gorau i ysmygu tybaco. Fodd bynnag, yn fwy diweddar, mae diddordeb mewn fêps tafladwy wedi ffrwydro ac mae pobl sydd erioed wedi ysmygu yn rhoi cynnig arnynt. Mae’n anghyfreithlon gwerthu cynnyrch fêp i rai dan 18 oed, ond er hyn, mae fêps wedi dod yn boblogaidd ymysg pobl ifanc ac mae llawer o’r cynnyrch sydd ar gael yn apelio i blant gyda’u blas melys a phecynnu llachar. Mae rhai cynnyrch anghyfreithlon wedi defnyddio enwau fferins poblogaidd i’w hyrwyddo hyd yn oed.

Er ei fod yn llawer llai niweidiol nag ysmygu tybaco, nid yw defnyddio fêps heb ei risgiau chwaith. Oherwydd hynny, mae’r gyfraith yn gosod cyfyngiadau penodol ar fêps tafladwy gydag uchafswm capasiti ac uchafswm cryfder nicotin. Mae gofynion labelu caeth hefyd. Roedd fêps anghyfreithlon fel y rhai a ddarganfuwyd yn The Vape Shop yn groes i’r cyfyngiadau hyn gan achosi niwed sylweddol posibl i iechyd y bobl oedd yn eu defnyddio.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Terry Evans, “Mae’r cynnydd cyflym yn nifer y bobl a phlant sydd erioed wedi ysmygu ond sy’n defnyddio fêps yn peri pryder mawr ac mae’n dda gweld bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystyried deddfwriaeth newydd i fynd i’r afael â’r broblem.

“Mae gwerthu cynnyrch rhy gryf a rhy fawr yn ein cymuned yn peri pryder penodol ac ni fyddwn yn meddwl ddwywaith cyn defnyddio’r grym cyfreithiol sydd gennym i amddiffyn iechyd a lles ein pobl ifanc. Rwyf yn croesawu canlyniad y gweithredu hwn gyda’r effaith ymarferol iawn o gau’r eiddo am gyfnod hir. 

“Mae’r tarfu hwn yn effeithio nid yn unig ar berchennog y busnes ond hefyd ar berchennog yr eiddo na fydd yn gallu defnyddio na rhentu’r eiddo at unrhyw ddiben am y 3 mis nesaf. Os ydych chi’n landlord neu asiant eiddo â thenantiaid sy’n torri’r gyfraith fel hyn, dylech fod yn ymwybodol y gellir cymryd camau tebyg sy’n arwain at fethu â defnyddio’r eiddo drwy orchymyn y Llys.”

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Gwiriwch fod y tacsi yr ydych yn mynd iddo yn gyfreithlon!

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a  materion diogelu’r cyhoedd eraill

Rhannu
Erthygl flaenorol Storm Babet: gwaith i drwsio ffordd wedi’i difrodi ym Mhentrebychan i ddechrau’n fuan Storm Babet: gwaith i drwsio ffordd wedi’i difrodi ym Mhentrebychan i ddechrau’n fuan
Erthygl nesaf Private Hire Dweud eich dweud – Meini Prawf Addasrwydd wedi’u Hadolygu ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat a Cherbydau Hacni

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English