Mae rhaglen Gŵyl Geiriau Wrecsam 2019 wedi’i chyhoeddi ac mae’n well ac yn fwy nag erioed.
Bellach ar ei phumed flwyddyn, mae’r rhestr yn cynnwys sêr fel gwyddonydd preswyl The One Show, Marty Jopson, Cyn-weinidog y Llywodraeth, Alan Johnson, a’r awdures enwog, Amanda Prowse. Yno hefyd, bydd awdur hynod boblogaidd The Best Exotic Marigold Hotel, Deborah Moggah, brenhines nofelau trosedd, Elly Griffiths, Alison Weir, yr awdures ffuglen hanesyddol boblogaidd, y Parch. Peter Laws a’r awdures enwog a’r hanesydd, Clare Mulley. Bydd rhai sy’n hoffi llên yn siŵr o fwynhau!
Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws Wrecsam rhwng dydd Sadwrn 27 Ebrill a 4 Mai 2019.
Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers ei chynnal y tro cyntaf yn 2015, gyda mwy a mwy o ddigwyddiadau bob tro sydd wedi bod y boblogaidd iawn ymysg pobl leol.
Dywedodd Shan Cooper, Arweinydd Llyfrgelloedd; “Mae’r rhaglen sydd wedi cael ei threfnu’n gyffrous iawn ac fe hoffwn annog unrhyw un sy’n hoffi llyfrau ac ysgrifennu i ddod i ymuno â ni yn ystod yr wythnos. Mae rhywbeth i bawb, heb os.”
Awydd datrys dirgelwch?
Gan ei fod mor boblogaidd y tro diwethaf, bydd Llyfrgell Wrecsam yn cynnal noson Pwy Laddodd eto yn rhan o’r carnifal, ac mae’n siŵr o fod yn boblogaidd unwaith eto. Rhowch eich sgiliau ditectif ar waith a chael blas ar ymchwilio i’r drosedd fwyaf difrifol yn ein noson Pwy Laddodd gyffrous. Ymunwch â ni i chwarae ditectif am y noson i geisio darganfod ‘pwy sy’n euog’?
Ydych chi’n awyddus? Peidiwch ag oedi! Bachwch eich tocynnau heddiw!
Mae prisiau’r tocynnau’n amrywio ond mae llawer o’r digwyddiadau am ddim. Gallwch eu prynu o Lyfrgell Wrecsam neu ar-lein trwy wefan Cyngor Wrecsam.
Mae mwy o fanylion a’r rhaglen lawn i’w gweld ar www.wrexhamcarnivalofwords.com neu ddilyn yr ŵyl ar Facebook a Twitter, #GŵylGeiriauWrecsam.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR