Mae’n bleser gennym allu cynnig rhagor o hyfforddiant sgiliau adeiladu traddodiadol fel rhan o’n rhaglen i alluogi cyflogwyr a gweithwyr lleol i chwarae rhan fawr mewn diogelu ac adfer treftadaeth ardal gadwraeth ein canol tref.
Mae’r cyrsiau sydd ar gael yn rhad ac am ddim a byddant yn cael eu cynnal yn safle Ffordd y Bers Coleg Cambria.
Cwrs pren a phydredd – 9 Gorffennaf 2021
Delio a phydredd pren a’i achosion; gwybod y gwahaniaeth rhwng pydredd sych a phydredd gwlyb; pwysigrwydd awyriad; gwaith trwsio cysylltiedig; sut i wneud gwaith trwsio coed yng nghyd-destun cadwraeth a gwaith coed hanesyddol a phwysigrwydd lleithder mewn pren a gosod pren newydd.
Dyfarniad Lefel 3 Achrededig Mewn Ynni ac Effeithlonrwydd – 29 a 30 Gorffennaf 2021
Mae’r cwrs dau ddiwrnod achrededig hwn wedi’i ddylunio i godi ymwybyddiaeth o effeithlonrwydd ynni tai a adeiladwyd cyn 1919.
Ffenestri Codi Pren – 6 Awst 2021
Ennill dealltwriaeth sylfaenol o ffenestri pren sy’n dyddio o’r cyfnod cyn 1919, o’u dyluniad i sut y maent yn gweithio a sut i’w trwsio, gan roi eglurhad clir o gydrannau’r ffenestri, gwaith haearn a sut y cafodd y ffenestri eu gosod yn yr adeilad.
COs oes gennych ddiddordeb mewn mynychu unrhyw un o’r cyrsiau uchod cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Adeiladu Traddodiadol: TBS@Wrexham.gov.uk
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae’r adeiladau yn Ardal Gadwraeth Canol y Dref yn asedau blaenllaw a gwerthfawr yn ein tref. Rydym eisiau sicrhau bod y dulliau a fydd yn cael eu defnyddio i adfywio’r adeiladau hyn yn cyd-fynd â’r sgiliau traddodiadol a ddefnyddiwyd i’w hadeiladu yn y lle cyntaf.
“Mae’r cyrsiau wedi cael derbyniad da o’r dechrau ac wedi’u croesawu’n arbennig gan gyflogwyr a gweithwyr sydd eisiau chwarae eu rhan mewn adfer ein treftadaeth yng nghanol y dref.”
Edrychwch isod ar rai o’r adeiladau hanesyddol a hardd sydd gennym yn ardal gadwraeth canol y dref i ofalu amdanynt ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Darperir y cwrs hwn yn rhad ac am ddim drwy raglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol Wrecsam.
Mae’r hyfforddiant hwn ar gael diolch i arian Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 – 2020, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN