Bydd y Diwrnod Chwarae’n dod i Wrecsam unwaith eto, ond eleni, bydd y digwyddiad yn ymestyn o ganol y dref i weddill y sir, ac rydym yn gofyn i’n partneriaid gynnal sesiynau hefyd.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Byddwn yn dathlu’r Diwrnod Chwarae ym mhob un o’n sesiynau chwarae, felly ymwelwch â gwefan y Cyngor neu dudalen Facebook Tîm Chwarae Wrecsam / Wrexham Play Team i ddarganfod ble i ddod o hyd ni.  Bydd perfformiwr syrcas hefyd yn ymuno â’r sesiynau chwarae yn ystod yr wythnos.

I nodi’r Diwrnod Chwarae a’r Haf o Chwarae, bydd y Tîm Cefnogi Chwarae ac Ieuenctid yn gosod nifer o geogelciau hwyliog.   Os nad ydych chi’n gyfarwydd â geoguddio, ewch i gael golwg ar yr ap er mwyn ymarfer eich sgiliau geoguddio a pharatoi ar gyfer y Diwrnod Chwarae.

Bydd ein partneriaid yn Xplore Science yn chwarae yn eu rhodfa yn ystod y Diwrnod Chwarae ac ar y penwythnosau cyn ac ar ôl y digwyddiad.

Byddwn hefyd yn ymuno â’n ffrindiau yn Chwarae Cymru i guddio nifer o’u llyfrau plant “Hwyl yn y Dwnjwn” a “Hwyl yn yr Ardd” ar draws Wrecsam, bydd unrhyw un sy’n ddigon ffodus i ddod o hyd i gopi yn cael ei gadw.

Mae Clybiau Plant Cymru yn cuddio nifer o godau QR…

sy’n cynnwys syniadau hwyliog ar draws Cymru, byddwn yn sicrhau bod y rhain ar wasgar ar draws Wrecsam.

Mae ein cynlluniau’n newid yn dragwyddol wrth i ragor o sefydliadau gymryd rhan, felly cadwch lygad allan am y wybodaeth ddiweddaraf, ac os ydych chi’n sefydliad sy’n awyddus i ymuno â’r hwyl, cysylltwch â play@wrexham.gov.uk

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN