Mae sicrhau ’r ysgolion iawn yn y llefydd cywir ar draws sir Wrecsam yn dipyn o gamp a dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae llawer iawn wedi’i wneud i wella ein hysgolion. Fodd bynnag mae llawer iawn i’w wneud eto ac mae cynlluniau eisoes ar droed i fynd i’r afael â hyn.
Yr enw ar yr ail rownd o welliannau yw Band B ac fel rhan o’r prosiectau arfaethedig bydd y cyngor yn parhau i roi sylw i’r mannau hynny yn y fwrdeistref sirol lle mae galw cynyddol am lefydd mewn ysgolion, yn cynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion lle darperir addysg seiliedig ar ffydd.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Bydd y prosiectau hyn hefyd yn lleihau costau rhedeg, yn gwella cyfleusterau TGCh, yn darparu dyluniadau addas ar gyfer y dyfodol a ble bo galw am hynny, yn galluogi mwy o ddefnydd gan y gymuned. Mae pum prif brosiect yn rhan o hyn, sef:
- Dod ag Ysgolion Babanod ac Iau Borras at ei gilydd
- Ar hen safle Ysgol Fabanod Borras, yn dilyn gwaith adnewyddu a mân addasiadau, bydd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyda lle i 210 + 30 lle meithrin yn cael ei sefydlu.
- Bydd adolygiad llawn o ddarpariaeth addysg uwchradd ledled Wrecsam yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd 2017 er mwyn mynd i’r afael â’r mater o lefydd dros ben mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a’r galw cynyddol am ysgolion cyfrwng Cymraeg. Credir y bydd yr adolygiad yn amlygu’r angen i wneud rhai newidiadau sylweddol mewn sawl lleoliad ar draws y Sir a rhagwelir mai cost hyn fydd £10 miliwn.
- Bydd Ysgolion Babanod ac Iau Hafod yn cael eu cyfuno o dan un to, gan ryddhau un adeilad ysgol.
- Mae angen estyniad yn Ysgol ID Hooson yn lle’r dosbarthiadau dros dro.
Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Pobl – Addysg: ‘Rwyf wrth fy modd cael dod a’r adroddiad hwn gerbron y Bwrdd Gweithredol gan ei fod yn cynrychioli gwelliannau aruthrol i ddarpariaeth addysg yn y fwrdeistref sirol. Rydym wedi darparu prosiectau gwych fel rhan o Fand A, yn cynnwys pedwar gwelliant ychwanegol o fewn yr un gyllideb, felly rydym yn edrych ymlaen at symud ymlaen â Band B.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI