Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhaid osgoi hyn a gwella ein harferion ailgylchu gwastraff bwyd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Rhaid osgoi hyn a gwella ein harferion ailgylchu gwastraff bwyd
Y cyngor

Rhaid osgoi hyn a gwella ein harferion ailgylchu gwastraff bwyd

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 19, 2019 11:48 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Food Waste Recycling Recycle
RHANNU

Mae nifer ohonom erbyn hyn yn ailgylchu ein gwastraff bwyd yn ein cadis bwyd, ac rydym yn gwneud cynnydd cyson yn Wrecsam…ond mae digon o le i wella eto.

Mae nifer ohonom yn cymryd mantais o’r bagiau cadi am ddim ac yn rhoi ein cadis bwyd allan i’w gwagu bob wythnos, ond mae rhai ohonom yn dal i daflu gwastraff bwyd i’r gwastraff cyffredinol.

Mae’r lluniau yn yr erthygl hon o gasgliad gwastraff cyffredinol diweddar yn Wrecsam. Fel y gwelwch, mae nifer o eitemau bwyd (a nifer o ddeunyddiau eraill) a ddylai fod wedi eu hailgylchu.

Rhaid osgoi hyn a gwella ein harferion ailgylchu gwastraff bwyd
Rhaid osgoi hyn a gwella ein harferion ailgylchu gwastraff bwyd

Ond nid yw’r darlun yn dywyll i gyd…mae nifer ohonom yn gwneud ymdrech i ailgylchu gwastraff bwyd ac mae ein hystadegau yn Wrecsam yn gwella.

Fe wnaethom ailgylchu dros 195 tunnell o wastraff bwyd yn ein cadis ym mis Tachwedd, o’i gymharu â bron i 140 tunnell ym mis Tachwedd 2018…cynnydd o 40%.

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Nid hap a damwain yw hyn…rydym yn ailgylchu mwy o wastraff bwyd yn rheolaidd yn 2019 nac yr oeddem yn 2018, ond y nod yw parhau i wella er mwyn rhagori.

Rhaid osgoi hyn a gwella ein harferion ailgylchu gwastraff bwyd

Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r ffigyrau hyn yn dangos gwelliant cadarn yng nghyfanswm y gwastraff bwyd rydym wedi’i ailgylchu yn 2019, ac mae’n dda gweld mwy ohonom yn gwneud hyn fel rhan o’n harferion ailgylchu dyddiol.

“Rydym wedi gwneud ymdrech i roi gwybod i bobl am yr holl bethau y gellir eu hailgylchu yn eich cadi bwyd ac mae’n profi bod pobl yn hapus i chwarae eu rhan yn ein hymdrechion i ailgylchu os rhown y wybodaeth angenrheidiol iddynt.

“Yn anffodus, mae’r lluniau yn yr erthygl hon yn dangos bod nifer ohonom yn parhau i fethu ag ailgylchu gwastraff bwyd, ac anogwn yn gryf i’r bobl hyn newid eu harferion; mae cymaint o resymau iddynt wneud hyn.

“Ynghyd â manteision amgylcheddol, rydym yn cynnig bagiau cadi am ddim, a thrwy ailgylchu bwyd rydych yn rhyddhau gofod yn eich biniau. Mae hefyd yn eich helpu i stopio’ch biniau rhag arogli o fwyd yn pydru – cofiwch fod eich cadi bwyd yn cael ei wagio bob wythnos, nid yw hynny’n wir am eich gwastraff cyffredinol!

“Diolch i bawb sy’n ailgylchu eu gwastraff bwyd ac i’r rhai nad ydynt, dechreuwch wneud eich rhan. Rydym angen cyrraedd ein targed ailgylchu 70% erbyn 2025, a gallwch chi ein helpu i gyflawni hyn.”

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ten Blogs Articles Top Ein 10 blog uchaf ar gyfer 2019
Erthygl nesaf Awgrymiadau Gwych am Noson Allan Arbennig yn Wrecsam dros y Nadolig yma Awgrymiadau Gwych am Noson Allan Arbennig yn Wrecsam dros y Nadolig yma

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Dysgu yn Wrecsam
Use this handy tool to read and listen to council news and info in any language
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026
Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English