Mae dod yn rhiant yn un o’r profiadau mwyaf hyfryd a chyffrous yn eich bywydau, ac mae treulio amser gwerthfawr gyda’ch plentyn yn y misoedd cyntaf pwysig hynny yn gallu eich helpu i ddatblygu perthynas arbennig gyda’ch plentyn a fydd yn para am byth. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar eich plentyn a’r uned deuluol.
Mae Absenoldeb Rhiant a Rennir (SPL) yn annog rhieni i rannu’r pleser o rianta a’r perthynas gyda’u plentyn, gan gadw mewn cysylltiad â’ch gweithle.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Eleni mae’r adran ar gyfer Strategaeth Busnes, Ynni a Diwydiannol yn canolbwyntio ar hysbysu rhieni a gweithwyr o’r agweddau ymarferol o gymryd Absenoldeb Rhiant a rennir, yn ogystal ag edrych ar fanteision i deuluoedd a’r gweithle.
Pam cymryd Absenoldeb Rhiant A Rennir?
- Cael perthynas agos gyda’ch baban yn ei flwyddyn gyntaf.
- Rhannu absenoldeb sydd yn gweithio i’r ddau ohonoch.
- Ni fyddwch yn anghofio holl gamau cyntaf eich baban. Gallwch chi’ch dau fod yno ar gyfer yr adegau arbennig hynny gydag Absenoldeb Rhiant a Rennir.
- Nid ar gyfer rhieni biolegol yn unig yw Absenoldeb Rhiant a Rennir. Gall rieni sy’n mabwysiadu neu rieni sydd yn cael plentyn drwy fam fenthyg gymryd Absenoldeb Rhiant a Rennir.
Mae Absenoldeb Rhiant a Rennir yn ymgyrch lywodraethol i annog mwy o rieni i ‘rannu’r balchder’ o ofalu am eu baban yn flwyddyn gyntaf, gan gulhau’r stereoteip rhyw a rhoi opsiwn i ferched i ddychwelyd i’w gyrfaoedd yn gynt.
Gall rieni ddefnyddio eu habsenoldeb mewn ffordd hyblyg gan rannu hyd at 50 wythnos o absenoldeb a chyda hyd at 37 wythnos o dâl.
Gallant fod i ffwrdd o’u gwaith gyda’i gilydd am hyd at 6 mis neu fel arall darwahanu eu habsenoldeb a thâl fel bod un ohonynt gartref drwy’r amser gartref gyda’u baban yn y flwyddyn gyntaf.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar sut y gallwch chi a’ch partner rannu’r absenoldeb yma: https://bit.ly/2I7wPu9
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU