Mae amgueddfa newydd Wrecsam yn chwilio am ffotograffau yn dangos pobl yn gweithio ac yn chwarae ar hyd y blynyddoedd. Allwch chi helpu?
Gyda’r adeiladwyr yn brysur ar safle’r amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw, mae tîm yr amgueddfa’n canolbwyntio ar ddatblygu’r arddangosfeydd newydd.
Y newid mawr yw y bydd yr amgueddfa’n cynyddu o ran maint o’i thair oriel flaenorol i un oriel ar ddeg, yn ogystal â thri man ‘cyflwyniadol’.
Mae yna gasys arddangos i’w llenwi a delweddau hanesyddol i’w canfod, a dyma lle’r ydym ni angen eich cymorth chi!
Chwiliwch eich cypyrddau, droriau ac atigau!
Rydym ni eisoes yn chwilio yn yr archifau, ond mae yna nifer o ddelweddau allan yng nghartrefi pobl, yn eich hen albymau lluniau, i fyny yn yr atig neu mewn cypyrddau a droriau. Ffotograffau sy’n adrodd eu hanesion eu hunain am Wrecsam.
Rydym yn chwilio am ffotograffau sy’n dangos pobl leol:
- Yn gweithio – mewn ffatrïoedd, swyddfeydd, siopau, busnesau, yn y gymuned neu’n gwirfoddoli
- Yn hamddena – yn mwynhau chwaraeon, yn dathlu digwyddiadau a phen-blwyddi, ar noson allan, ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, o orymdeithiau Nadolig, corau a’r theatr amatur i brotestiadau a rasys noddedig.
- Dydyn ni ddim eisiau cadw’r ffotograffau hyn, dim ond eu sganio i’w defnyddio yn yr arddangosfeydd.
Dewch â’ch lluniau i’n hamgueddfa dros dro
Bydd y sesiynau sganio’n cael eu cynnal yn yr Amgueddfa Dros Dro yn Sgwâr y Frenhines ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Gwener, 15 Tachwedd, rhwng 11am a 3pm
- Dydd Gwener, 29 Tachwedd, rhwng 11am a 3pm
Meddai’r Cynghorydd Paul Roberts, yr Aelod Arweiniol: “Mae adrodd hanesion niferus Wrecsam yn ganolog i genhadaeth yr amgueddfa newydd, ac fel maen nhw’n dweud, ‘cyfwerth llun a llith’. Bydd eich lluniau chi’n helpu’r amgueddfa i rannu prif straeon pobl Wrecsam gyda’r llu o ymwelwyr rydym yn disgwyl eu croesawu.”
Yr unig feini prawf yw:
- Dylai’r llun fod wedi’i dynnu rhywle yn ninas a sir Wrecsam.
- Dylai’r bobl yn y llun fod wedi bod yn byw’n lleol, ar y cyfan.
- Ddoe y dechreuodd y gorffennol, felly mae gennym ni ddiddordeb mewn lluniau lliw yn ogystal â rhai du a gwyn.
Dewch draw gyda’ch ffotograffau i’w sganio, rydym yn edrych ymlaen at gael eich cyfarfod chi.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os hoffech chi gynnig delweddau digidol, anfonwch neges e-bost i museum@wrexham.gov.uk.