Dewch i’r Amgueddfa Dros Dro ar Sgwâr y Frenhines yn Wrecsam a rhannwch eich straeon pêl-droed gyda ni!
Dewch â’ch pethau cofiadwy pêl-droed i mewn a chael sgwrs â’n Swyddogion Pêl-droed, yn ogystal â dysgu mwy am adnewyddu’r amgueddfa.
Dydd Mercher 22 Ionawr, 2.00pm-3.30pm
Dydd Mercher 12 Mawrth, 2.00pm-3.30pm
Does dim angen archebu lle – dewch draw!
Darganfod mwy am yr amgueddfa newydd
Mae gwaith adeiladu bellach wedi dechrau ar yr Adeiladau Sirol eiconig, 167 oed, rhestredig Gradd II yng nghanol dinas Wrecsam – cartref Amgueddfa Wrecsam ers 1996.
Pan fydd yr adeilad yn ailagor i’r cyhoedd yn 2026, bydd yn gartref i Amgueddfa Wrecsam sydd wedi’i gwella a’i hehangu, ochr yn ochr ag amgueddfa bêl-droed gyntaf erioed Cymru.
Gydag orielau newydd o’r radd flaenaf ac adeilad wedi’i adnewyddu a’i ymestyn yn llwyr, mae’r amgueddfa ar fin bod yn atyniad cenedlaethol newydd o safon fyd-eang i Wrecsam, gan ddenu miloedd o ymwelwyr o bob rhan o Gymru – a thu hwnt!
Darperir cymorth ariannol ar gyfer yr amgueddfa newydd gan Gyngor Wrecsam, Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU a Sefydliad Wolfson.
Darganfod mwy am brosiect yr amgueddfa