Rheolwr Gweithrediadau a Marchnad Tŷ Pawb (graddfa 10 £39,186 – £42,403 y flwyddyn)
Mae hon yn swydd llawn amser, yn gweithio 37 awr yr wythnos dros 5 diwrnod gan gynnwys dyddiau Sadwrn
Mae cyfle cyffrous i reoli tîm deinamig yn un o drysorau Canol Dinas Wrecsam.
Mae Tŷ Pawb yn adnodd cymunedol diwylliannol sydd wedi ennill sawl gwobr, sy’n dod â’r celfyddydau a’r marchnadoedd ynghyd yn yr un lle. Mae’r cydfodoli hwn yn dathlu arwyddocâd marchnadoedd yn nhreftadaeth a hunaniaeth ddiwylliannol Wrecsam.
Mae angen Rheolwr Gweithrediadau Tŷ Pawb i arwain wrth reoli’r gweithdrefnau gweithredol a darparu gwasanaethau yn Nhŷ Pawb yn ogystal â’r Neuadd Goffa, gan gynnwys rheoli maes parcio aml lawr 323 lle; rheoli’r stondinau marchnad; eiddo masnachol cysylltiedig, cyfleoedd Caffi/Bar ac i gefnogi Bwrdd Ymgynghorol Tŷ Pawb i ddatblygu Tŷ Pawb fel adnodd Celfyddydau, Marchnad a Chymunedol llwyddiannus yng nghalon Canol Dinas Wrecsam.
Byddwch yn gyfrifol am reolaeth weithredol yr adeilad, am reoli masnachwyr marchnad a thenantiaid masnach, am gydlynu materion atgyweirio a chynnal a chadw a rheoli gwastraff sy’n gysylltiedig â’r gweithrediadau yn yr adeilad, a rheoli Tîm Gweithredol Tŷ Pawb i ddarparu gwasanaeth llwyddiannus.
Mae angen cydymffurfio â chanllawiau iechyd a diogelwch gan gyflawni’r holl ddyletswyddau sy’n gysylltiedig â bod yn ‘Swyddog Cyfrifol’ ar gyfer yr adeilad.
Byddwch yn gyfathrebwr ac ysgogwr gwych, â sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar a byddwch yn gallu cyfathrebu’n hyderus ag ystod eang o fudd-ddeiliaid.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag yw eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Bod yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn Tŷ Pawb ar 8 Mawrth – Newyddion Cyngor Wrecsam