Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y defnydd o’r Pàs Covid yng Nghymru i fwy o leoliadau.
Mae hyn yn golygu os ydych chi’n 16 oed neu drosodd, bydd angen dangos eich pàs naill ai ar eich ffôn neu fel copi caled os na ellir cael un ar-lein.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Dyma’r rhestr gyflawn o leoliadau sydd angen pàs:
- clybiau nos a lleoliadau tebyg
- lleoliadau dan do heb seddi gyda dros 500 o bobl yn y gynulleidfa
- unrhyw leoliad heb seddi dan do neu yn yr awyr agored gyda dros 4,000 o bobl
- unrhyw ddigwyddiad, o unrhyw natur, sydd â mwy na 10,000 o bobl yn bresennol
- neuaddau cyngerdd
- theatrau
- sinemâu
Sut i gael eich Pàs Covid
Trefnwch eich Pàs Covid cyn mynd allan. Mae’n hawdd ac yn gyflym gwneud hynny ar wefan GIG y DU:
Mae’n rhaid i chi fod:
- yn 16 mlwydd oed neu’n hŷn
- wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru
Bydd angen uwchlwytho llun o un o’r canlynol:
- pasbort
- trwydded yrru lawn y DU
- trwydded yrru lawn Ewropeaidd
Archebu Pàs Covid GIG (ar nhs.uk)
Os nad oes gennych ID gyda llun neu ddyfais glyfar berthnasol, bydd angen gwneud cais am dystysgrif COVID GIG ar bapur. I wneud hyn ffoniwch 0300 303 5667 ond dylid gwneud cais am hyn os nad ydych yn gallu defnyddio Pàs Covid GIG digidol yn unig.
Mae Pàs Covid digidol yn ddilys am 30 diwrnod yn unig. Bydd y cod yn diweddaru’n awtomatig bob tro y byddwch yn mewngofnodi i’r gwasanaeth. Bydd hyn yn ei ymestyn am 30 diwrnod arall. Lawrlwythwch / argraffwch y Pàs diweddaraf i’w ddefnyddio.
I ddysgu mwy am y Pàs Covid ewch i wefan Llywodraeth Cymru (DOLEN)
(https://gov.wales/get-your-nhs-covid-pass)
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL