Ydych chi’n methu â gwybod beth i’w wneud gyda’ch babanod a phlant bach yn ystod tymhorau’r ysgol neu efallai yr hoffech i’ch plentyn dreulio llai o amser o flaen y sgrin ar ôl ysgol? Mae gan eich llyfrgell leol ddigonedd o weithgareddau i gadw plant o bob oed yn ddiddig!
O sesiynau crefft i glwb lego, dyma sut y gallwch chi a’ch plentyn fanteisio ar eich llyfrgell leol.
Babanod a phlant bach
Amser Stori a Rhigymau
Beth? Gall rhieni, gofalwyr a phlant o dan 5 oed ddod draw i fwynhau straeon, caneuon a rhigymau.
Pryd a Ble?
- Llyfrgell y Waun bob dydd Gwener i blant rhwng 0-5 oed 3.30-4.00
- Llyfrgell Rhiwabon bob dydd Mawrth i blant rhwng 0-3 oed 2.00 – 2.45
- Llyfrgell Wrecsam bob dydd Mawrth i blant rhwng 0-5 oed 2.00-2.30
Sesiynau Stori a Chân Dwyieithog
Beth? Addas i blant rhwng 0-5 oed, ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd, rhieni di-Gymraeg a siaradwyr rhugl.
Pryd a Ble?
- Llyfrgell Wrecsam bob bore Mercher rhwng 10.00-10.30
- Llyfrgell Rhos unwaith y mis ar ddydd Mercher rhwng 2.00-3.00
Iaith a Chwarae Chatterbox
Beth? Mae Iaith a Chwarae Chatterbox yn sesiynau am ddim ar gyfer rhieni a phlant rhwng 0-3 oed i gael hwyl, rhannu straeon, sgwrsio, chwarae a chanu caneuon.
Pryd a Ble?
- Llyfrgell Brynteg bob dydd Gwener yn ystod y tymor, 1.00-2.15
- Llyfrgell Gwersyllt bob dydd Mercher yn ystod y tymor, 10.00-11.15
- Llyfrgell Cefn Mawr bob dydd Iau yn ystod y tymor, 1.00-2.15
Peidiwch ag anghofio os ydych yn grŵp chwarae, yn feithrinfa, grŵp rhiant a phlentyn neu’n warchodwr plant gallwch fenthyg casgliad o lyfrau i’w defnyddio gyda phlant yn eich gofal. Cysylltwch â’ch llyfrgell leol. Mae mwy o wybodaeth ar ein tudalennau we.
Plant oed ysgol
Ffrindiau llyfrau
Beth? Os ydych rhwng 5-11 oed, gallwch gymryd rhan yn y grŵp darllen iau, ffrindiau llyfrau, lle byddwch yn trafod y llyfr diweddaraf, gwneud posau, croeseiriau a lliwio.
Pryd a Ble? Llyfrgell Llai bob tair wythnos ar ddydd Gwener 3.30 – 4.30 yn ystod y tymor yn unig.
Clwb Lego
Beth? Mae’r clwb Lego yma’n cael ei gynnal bob wythnos ar gyfer plant 4+ oed sy’n hoffi adeiladu a chreu pethau o Lego.
Pryd a Ble? Llyfrgell Cefn Mawr, bob dydd Iau 3.30-4.30
Gwener Gludo a Glynu
Beth? Sesiwn grefft i blant o dan 8 oed
Pryd a Ble?
- Llyfrgell y Waun ar ddydd Gwener olaf y Mis, 4.00 – 4.30
- Llyfrgell Wrecsam, bob pedair wythnos o 28 Ebrill, 10.00-11.30
Clwb Plant
Beth? Crefftau, lliwio a phosau ar gyfer plant rhwng 3-8 oed. Rhaid bod yng nghwmni oedolyn.
Pryd a Ble? Llyfrgell Coedpoeth ar ddydd Mawrth cyntaf bob mis, yn ystod y tymor yn unig, 3.30 – 4.15
Clwb 4 o’r gloch
Beth? Straeon, crefftau, posau, gemau a gweithgareddau Lego ar gyfer plant rhwng 5-10 oed. Rhaid bod yng nghwmni oedolyn.
Pryd a Ble? Llyfrgell Rhiwabon bob pythefnos ar ddydd Gwener 4.00-5.00
Tra byddwch yn mwynhau mymryn o lonydd, beth am gael golwg ar ein casgliad o lyfrau rhianta.
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI