I rieni, mae bob amser wedi bod yn bwysig cael perthnasoedd adeiladol, cefnogol, boed gyda rhiant, teulu neu ffrindiau.
Mae cael perthnasoedd o’r fath yn bwysicach nawr nag erioed.
Os ydych yn rhiant beichiog, rhiant sydd wedi/yn gwahanu ac yn profi lefelau uchel o wrthdaro, neu eich bod angen cymorth i reoli eich straen, mae gennym gyrsiau ar-lein am ddim y gallwch gael mynediad iddynt gartref sy’n rhoi’r cyngor a chymorth rydych ei angen.
Mae’r tri chwrs rhianta hyn yn eich helpu gyda’r cyngor a chymorth sydd ei angen i gryfhau eich perthynas yn y cartref a rheoli gwrthdaro, ac i helpu os ydych yn gwahanu neu wedi gwahanu i ddeall sut y gall gwrthdaro effeithio ar eich plant.
I gael mynediad i’r cyrsiau hyn cliciwch yma
Mae preswylwyr Wrecsam wedi cael mynediad i’r cyrsiau gan Lywodraeth Cymru, felly byddwch angen cofrestru i adael iddynt wybod o ble’r ydych chi’n dod. Mae cofrestru yn rhad ac am ddim yn ogystal â’r cyrsiau.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN