Os ydych yn ymweld â chanol tref Wrecsam fe wyddoch fod gennym nifer o farchnadoedd.
Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar Farchnad y Cigyddion, y Farchnad Gyffredinol a’r farchnad wythnosol a gynhelir ar ddydd Llun ac hoffem wybod a ydynt yn diwallu anghenion ymwelwyr. Nid yw stondinau marchnad Tŷ Pawb yn gynwysedig yn yr adolygiad hwn.
Er enghraifft –
- Ydyn nhw’n darparu’r hyn yr ydych yn ei ddisgwyl gan farchnad?
- Ydyn nhw’n gwerthu pethau sydd eu heisiau arnoch chi?
- Ydyn nhw’n ddigon hygyrch ar gyfer eich anghenion?
Er mwyn darganfod yr wybodaeth hon rydym yn cynnal ymgynghoriad ynglŷn â’r marchnadoedd i wneud yn siŵr eu bod yn gallu ateb y galw cyhoeddus wrth i ganol trefi newid ac esblygu ac i sicrhau eich bod yn cael beth yr ydych yn dymuno ei gael ganddyn nhw.
Bydd y wybodaeth a roddwch i ni yn ein helpu i ddatblygu a rheoli’r dair farchnad yn y dyfodol.
Mae’r cwestiynau yn hawdd iawn i’w hateb a bydd cyfle i chi roi awgrymiadau pellach ynglŷn â sut y gellid eu gwella hefyd.
Mae’n cymryd rhyw bum munud ac os ydych yn ymweld â chanol y dref byddem yn gwerthfawrogi pe baech yn treulio amser yn rhoi eich barn i ni.
Gallwch gymryd rhan yma.