Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhowch eich biniau du allan yr wythnos nesaf (18-22 Medi)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor
admissions
Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Busnes ac addysg Y cyngor
Red Ensign
Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol
Pobl a lle Y cyngor
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
Digwyddiadau Pobl a lle
Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Rhowch eich biniau du allan yr wythnos nesaf (18-22 Medi)
Y cyngor

Rhowch eich biniau du allan yr wythnos nesaf (18-22 Medi)

Diweddarwyd diwethaf: 2023/09/15 at 11:11 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Biniau du
RHANNU

Rhowch eich bin du allan ar eich diwrnod casglu arferol…

Ar ôl pythefnos o streicio gan Unite, disgwylir i aelodau’r undeb llafur ddychwelyd i’r gwaith ddydd Llun, 18 Medi.

Gyda’r lefelau staffio yn ôl i’r lefelau arferol am y tro, mae Cyngor Wrecsam yn gobeithio gwneud iawn ac yn cyhoeddi neges syml i aelwydydd lleol…

  • Rhowch eich biniau du a’ch cynwysyddion ailgylchu allan ar eich diwrnod casglu arferol (hyd yn oed os nad hon yw’ch wythnos biniau du arferol), gan ein bod ni’n bwriadu gwagio’r holl finiau du a chynwysyddion ailgylchu (yn cynnwys gwastraff bwyd) yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 18 Medi.
  • Peidiwch â rhoi eich biniau gwyrdd allan, yn anffodus ni fyddwn yn gallu casglu gwastraff gardd.

Mae’r streic wedi effeithio ar gasgliadau bin ar draws y fwrdeistref, gyda chriwiau gwastraff yn brin iawn o staff a cherbydau methu gadael y depo ar brydiau oherwydd nifer y protestwyr.

Er mai saib dros dro yn y streicio yw’r wythnos nesaf, gyda streic arall am dair wythnos ar 25 Medi, bydd yn gyfle i’r criwiau casglu sbwriel ddal i fyny.

Bydd ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref hefyd ar agor (gydag oriau agor bob safle yn cael eu hymestyn tan 8pm), ac rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn y gwastraff sy’n cael ei gludo i’r safleoedd hyn yn ystod yr wythnos ddwy ddiwethaf.

Diolch i bawb sydd wedi bod yn gwneud hyn, a gofynnwn i chi barhau i wneud hynny os fedrwch chi gan ei fod yn gadael llai o wastraff ac ailgylchu i ni ei gasglu.

Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, Cyngor Wrecsam: “Byddwn yn defnyddio’r wythnos nesaf i flaenoriaethu casgliadau biniau du a chynwysyddion ailgylchu, ac er na allwn sicrhau y byddwn yn cyrraedd at bawb rydym ni’n hyderus y byddwn yn gwagio’r rhan fwyaf o finiau.

“Yn anffodus, oherwydd ein bod ni’n blaenoriaethu biniau du, does gennym ni ddim digon o staff i gasglu gwastraff gardd hefyd, ac rydym ni’n sylweddoli y bydd rhai pobl yn teimlo’n rhwystredig ynghylch hynny. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar finiau du ac ailgylchu gan mai’r rhain fydd yn achosi’r rhan fwyaf o bryderon.

“Rydym ni’n gweithio’n galed i reoli gwasanaethau dan amgylchiadau anodd, a hoffem atgoffa pobl o’n hawgrymiadau lleihau a rheoli gwastraff a diolch i bawb am fod mor amyneddgar”.

Bydd y streic nesaf yn cael ei chynnal o 25 Medi tan 15 Hydref, a bydd y Cyngor yn cyhoeddi cyngor pellach i aelwydydd yr wythnos nesaf.

Rhannu
Erthygl flaenorol Bone Marrow Chwilio ar draws y byd am roddwr mêr esgyrn yn dod o hyd i rywun sydd yn cydweddu bron yn berffaith, ac sy’n byw dim ond 15 milltir i ffwrdd o gartref y claf.
Erthygl nesaf Murder Mystery Cystadleuaeth ysgrifennu sgript llofruddiaeth dirgelwch

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor Awst 30, 2025
admissions
Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 29, 2025
Red Ensign
Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol
Pobl a lle Y cyngor Awst 27, 2025
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 26, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Recycling
Y cyngor

Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…

Awst 30, 2025
admissions
Busnes ac addysgY cyngor

Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026

Awst 29, 2025
Red Ensign
Pobl a lleY cyngor

Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol

Awst 27, 2025
Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion

Awst 22, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English