Mae’n hyll ac rydym yn cwyno’n aml amdano – rwy’n sôn wrth gwrs am sbwriel ar yr A483.
Dylai teithio’r ardal fod yn bleser – mae gennym rywfaint o gefn gwlad gorau Prydain ond yn rhy aml mae ymwelwyr â Wrecsam yn cael eu cyfarch gan wastraff pobl.
Mae ein hadran yr Amgylchedd yn ceisio cadw pethau mor glir ag y gallant ond wrth edrych ar y llun uchod, mae’n dipyn o dasg. Ychydig fel paentio Pont y Forth – unwaith rydych wedi gorffen mae’n bryd dechrau eto.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n cymryd amser hir ac yn gostus i glirio’r ysbwriel oddi ar yr A483. Ni ddylai’r fath lwyth ohono fod yno. Rydym yn gofyn i bawb fynd ag o adref efo nhw a’i roi mewn bin nid ei daflu ar lawr. Gall taflu ysbwriel o gerbyd sy’n symud hefyd fod yn arbennig o beryglus i ddefnyddwyr eraill y ffordd ac i gerddwyr. Rwyf hefyd yn ysgrifennu at gyngor Swydd Gaer gan fod yr A483 tua’r Gogledd o’r Orsedd yn hyll ac mae’n amlwg nad oes unrhyw falchder yn cael ei gymryd yn y rhan hon o’r A483.”
Os cewch eich dal yn taflu sbwriel o’ch cerbyd, gallech hefyd gael eich dirwyo ond byddai’n well gennym pe baech yn mynd ag o adref a’i roi mewn bin neu ei ailgylchu. Rydym eisiau i chi fod yn falch o’n cefn gwlad ac eisiau i bawb sy’n ymweld â Wrecsam ei gweld ar ei gorau.”
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN