Erthygl gwadd – Cyllid a Thollau EM (CThEM)
Dylai cwsmeriaid credydau treth fod yn wyliadwrus rhag sgamiau posibl, mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) wedi rhybuddio, wrth i’r pecynnau adnewyddu blynyddol sy’n weddill gyrraedd yn y post yr wythnos hon.
Yn ystod y 12 mis hyd at 30 Ebrill 2021, gwnaeth CThEM ymateb i fwy nag 1,154,300 o atgyfeiriadau gan y cyhoedd yn ymwneud â chyswllt amheus. Roedd mwy na 576,960 o’r rhain yn cynnig ad-daliadau treth ffug.
Yn ystod yr un cyfnod, mae CThEM wedi gweithio gyda chwmnïau telathrebu ac Ofcom i gael gwared ar fwy na 3,000 o rifau ffôn maleisus a chyda darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd i dynnu dros 15,700 o dudalennau gwe maleisus. Gwnaeth CThEM ymateb i gyfanswm o 443,033 o adroddiadau ynghylch sgamiau dros y ffôn, sy’n gynnydd o 135% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Gallai unrhyw un sy’n adnewyddu ei gredydau treth ac sydd wedi cael e-bost neu neges destun dwyllodrus ynghylch treth neu fudd-daliadau gael ei dwyllo i feddwl bod y neges oddi wrth CThEM a rhannu ei fanylion personol gyda’r troseddwyr neu hyd yn oed drosglwyddo arian ar gyfer gordaliad ffug.
Mae Gweithrediadau Seiberddiogelwch CThEM yn canfod ac yn cau sgamiau bob dydd. Mae’r adran wedi bod yn arloesol yn y llywodraeth wrth ddefnyddio rheolaethau technegol i atal rhifau ffôn ei llinellau cymorth rhag cael eu ffugio, fel na all twyllwyr wneud iddi ymddangos eu bod yn ffonio o’r rhifau hynny ar ran CThEM.
Dywedodd Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid: “Rydym yn annog ein holl gwsmeriaid i fod yn ofalus iawn os bydd rhywun yn cysylltu’n ddirybudd gan gofyn am arian neu fanylion banc.
“Mae llawer o sgamiau ar led lle y mae twyllwyr yn ffonio, yn anfon neges destun neu’n anfon e-bost at gwsmeriaid gan honni eu bod yn dod oddi wrth CThEM. Os oes gennych unrhyw amheuon, rydym yn awgrymu nad ydych yn ymateb yn uniongyrchol, a’ch bod yn cysylltu â ni eich hun ar unwaith. Chwiliwch am ‘sgamiau’ ar GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth ac i gael gwybod sut i roi gwybod am sgamiau treth.”
Mae llawer o sgamiau’n dynwared negeseuon y llywodraeth er mwyn tawelu’r meddwl ac ymddangos yn ddilys. Mae CThEM yn frand cyfarwydd y mae troseddwyr yn ei gamddefnyddio i sicrhau bod eu sgamiau’n fwy credadwy.
Os nad yw cwsmeriaid yn siŵr pwy sy’n ffonio, mae CThEM yn argymell na ddylech yn siarad â phwy bynnag sydd ar ben arall y ffôn. Gall cwsmeriaid fynd i GOV.UK i fwrw golwg dros restr wirio CThEM ar sgamiau, i gael gwybod sut i roi gwybod am sgamiau treth ac i gael gwybodaeth ynghylch sut i adnabod cysylltiadau dilys gan CThEM.
Mae credydau treth yn helpu teuluoedd sy’n gweithio drwy roi cymorth ariannol targededig, felly mae’n bwysig nad yw pobl yn colli’r cyfle i gael arian y mae ganddynt hawl iddo. Mae gan gwsmeriaid tan 31 Gorffennaf i roi gwybod i CThEM am unrhyw newid mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eu hawliadau.
Mae adnewyddu ar-lein yn gyflym ac yn hawdd. Gall cwsmeriaid fewngofnodi i GOV.UK i wirio cynnydd eu cais i adnewyddu, i gael sicrwydd bod y cais yn cael ei brosesu, ac i wybod pryd y byddant yn clywed oddi wrth CThEM. Gall cwsmeriaid hefyd ddefnyddio ap CThEM ar eu ffôn clyfar i:
- adnewyddu eu credydau treth
- gwirio’r amserlen ar gyfer talu eu credydau treth
- cael gwybod faint maent wedi’i ennill ar gyfer y flwyddyn
Mae’n rhaid i gwsmeriaid Credydau Treth roi gwybod am y newidiadau i CThEM. Mae amgylchiadau a allai effeithio ar daliadau credydau treth yn cynnwys newidiadau i’r canlynol:
- trefniadau byw
- gofal plant
- oriau gwaith, neu
- incwm (cynnydd neu ostyngiad)
Nid oes angen i gwsmeriaid roi gwybod am unrhyw ostyngiadau dros dro yn eu horiau gwaith o ganlyniad i goronafeirws. Byddant yn cael eu trin fel pe baent yn gweithio eu horiau arferol nes y bydd y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws yn dod i ben.