Mae Safonau Masnach Wrecsam wedi dod i wybod am sgam pan mae busnesau yn derbyn llythyrau yn rhoi gwybod iddynt fod rhaid prynu ‘puryddion aer Covid Ddiogel’ a bod hynny’n ofyniad cyfreithiol.
Sgam ydi hyn!
Mae hyn yn sgam, a does dim gofyniad cyfreithiol i fusnesau osod puryddion o’r fath.
Mae’r llythyrau, sy’n honni iddynt gael eu hanfon gan y ‘Tasglu Covid Ddiogel’ fel rhan o Strategaeth yr Adran Fusnes, Ynni a Diwydiant, yn twyllo drwy nodi ei bod yn ofyniad cyfreithiol ar fusnesau i brynu eu puryddion aer erbyn 3 Mai, 2021.
Dywedir fod y puryddion yn costio £123.80 yr un a bod yn rhaid i fusnesau gael o leiaf dwy ddyfais, hyd at uchafswm o 10, yn dibynnu ar y math o fusnes a maint yr eiddo.
Gofynnir i fusnesau gwblhau ffurflen gais i archebu’r puryddion, a dywedir y bydd rhywun o’r ‘Gweithgor Covid Ddiogel’ yn cysylltu gyda nhw dros y ffôn i gwblhau’r taliad.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
“Nid yw hyn yn wir”
Mae Strategaeth yr Adran Fusnes, Ynni a Diwydiant (BEIS) wedi rhoi datganiad ar Trydar yn dweud: “Rydym yn ymwybodol o sgam yn anfon llythyr pennawd BEIS at fusnesau yn dweud wrthynt, yn ôl y gyfraith, bod angen iddynt brynu puryddion aer i gydymffurfio a rheolau #Covid19.
“Nid yw hyn yn wir” Os cewch chi lythyr, rhowch wybod amdano i Action Fraud UK.”
SCAM ALERT: We are aware of scammers sending BEIS headed letters to businesses telling them that, by law, they need to purchase air purifiers to comply with #COVID19 rules.
This is not true.
If you receive a letter, please report it to @actionfrauduk https://t.co/jNZ8PBdjq9
— Department for Science, Innovation and Technology (@SciTechgovuk) April 20, 2021
Adrodd am drosedd seiber
Os ydych chi’n credu eich bod wedi bod yn ddioddefwr sgâm neu drosedd seiber, dylech adrodd am hyn i Action Fraud drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Action Fraud yw’r Canolfan Cenedlaethol Adrodd am Sgamiau a Throsedd Seiber yn y DU.
Rhywfaint o gyngor
Mae’n bwysig iawn dilyn y tri cham hyn wrth benderfynu a yw’n ddiogel i chi wario’ch arian neu ddarparu’ch gwybodaeth bersonol:
STOPIO – Gall cymryd munud neu ddwy i feddwl cyn penderfynu gwario arian neu ddarparu gwybodaeth bersonol eich cadw chi’n saff.
HERIO – Ydi’r cynnig yn un go iawn? Mae gennych chi berffaith hawl gwrthod neu anwybyddu unrhyw gais. Dim ond troseddwyr fydd yn eich rhuthro neu’n gwneud i chi ddychryn.
AMDDIFFYN – Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’ch twyllo cysylltwch â’ch banc yn syth a rhowch wybod i Action Fraud.
Cyngor cyffredinol ar sgamiau
Gellir cael Cyngor i Ddefnyddwyr gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Gellir cysylltu â nhw ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).
Arhoswch yn ddiogel a byddwch yn ymwybodol o dwyll.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF