Hoffem gyhoeddi nodyn atgoffa bwysig i breswylwyr eu bod angen bod yn ofalus iawn a dilyn y canllawiau cywir wrth waredu ag unrhyw eitemau hunan losgadwy fel batris neu ganiau nwy.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Ni ddylid gosod eitemau gwastraff peryglus gan gynnwys batris, caniau nwy, cemegion neu unrhyw ffynhonnell arall o wres, yn eich gwastraff cyffredinol. Gall roi yr eitemau yma yn eich bin achosi tân yn y canolfannau ailgylchu, gan greu sefyllfaoedd peryglus a rhoi nifer o bobl mewn risg.
“Heb anghofio’r effaith ddychrynllyd mae hyn yn ei chael ar ein hamgylchedd hefyd. Nid ydyn ni eisiau rhyddhau’r deunydd gwenwynig sydd yn yr eitemau yma, sy’n niweidiol i’r amgylchedd ac iechyd pobl. Byddwch yn gyfrifol ac ailgylchwch yr eitemau yma, neu os yw’n bosib, eu dychwelyd i’r cyflenwr ble y cawsoch yr eitem.”
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Beth ddylwn i ei wneud?
Batris
Batris lithiwm sy’n achosi’r nifer fwyaf o danau mewn cyfleusterau gwastraff. Gallwch ailgylchu pob math o fatris yn y dair ganolfan ailgylchu yn Wrecsam – hyd yn oed batris car!
Ond os mai ond batris arferol y cartref hoffech eu hailgylchu, ac os yw’n fwy hwylus i chi, dylech gael yr opsiwn i’w hailgylchu yn eich siop leol hefyd.
Mae hyn oherwydd, ers Chwefror 2010, mae’n rhaid i siopau sy’n gwerthu mwy na 32kg o fatris y flwyddyn (tua 345 paced o 4 o fatris AA) ddarparu cyfleusterau ailgylchu yn y siop…felly mae’n rhaid i’r holl archfarchnadoedd a manwerthwyr ddarparu hyn.
Caniau Nwy
Gall caniau nwy fod yn beryglus, ac felly ni ddylid eu rhoi yn eich bin sbwriel. Os oes gennych un, mae’n well holi’r cwmni ble y gwnaethoch ei brynu, gan y bydd yn bosib iddynt eu hail-lenwi neu ei waredu i chi.
Mae’n bosib ailgylchu poteli nwy llai, nad oes modd eu hail-lenwi (a ddefnyddir ar gyfer gwresogydd coginio bach), gyda’r plastigion a’r caniau a gaiff eu casglu yn ymyl palmant DIM OND os nad oes hylif neu nwy ynddynt. Os oes unrhyw beth ar ôl ynddynt, byddwch angen mynd â nhw i un o’r tair canolfan ailgylchu.
Barbeciw untro
Gall barbeciwiau untro achosi tân os nad ydynt wedi eu trin yn y ffordd gywir, felly byddwch yn ofalus wrth eu defnyddio.
Dylid ond gwaredu ar ludw poeth yn y bin gwastraff cyffredinol wedi iddynt oeri yn iawn. Mae posib gwneud hyn drwy unai ddisgwyl 48 awr, neu eu socian mewn dŵr oer nes i’r tymheredd ostwng.
Mae’n llawer gwell osgoi barbeciwiau untro os yn bosib. Fel nifer o gynnyrch defnydd untro, maent yn gyfleus, ond y blaned sy’n talu’r pris. Nid yw’n bosib ailgylchu barbeciwiau untro, ac mae cael un aml ddefnydd yn llawer rhatach i’w ddefnyddio yn yr hirdymor.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ailgylchu yn Wrecsam, ewch i wrecsam.gov.uk/services/biniau-ac-ailgylchu
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF