Mae Griffiths wedi cael eu penodi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ddarparu Gwelliannau Amgylcheddol i Ganol Dinas.
Er mwyn helpu i gyflawni camau olaf y gwaith ac er mwyn uno’r arwyneb ffordd newydd rhwng Stryt yr Hôb a Stryt yr Eglwys, bydd angen i gau Stryt yr Hôb a’r Stryt Fawr dros dro er mwyn i’r gwaith gael ei gyflawni’n ddiogel.
Bydd angen cau’r ffyrdd hyn am 5 diwrnod gwaith yn dechrau ddydd Llun 4 Tachwedd ac yn gorffen ddydd Gwener 8 Tachwedd.
Bydd mynediad i gerddwyr yn parhau drwy gydol y cyfnod hwn o’r gwaith.
Yn ystod y cyfnod hwn o gau dros dro, bydd Stryt yr Abad yn cael ei ailagor dros dro a darperir mannau gollwng ar ben Allt y Dref (allanfa drwy Stryt yr Abad) ac ar ben Yorke Street ( allanfa drwy Stryt Caer/Stryt Siarl.)
Yn ôl yr arfer, bydd staff Griffiths ar gael ac yn hapus i helpu drwy ddarparu gwasanaeth porthor o’r lleoliad hwn ar gyfer danfoniadau busnes. Bydd mannau gwaredu/casglu sbwriel yn yr un lleoliadau â’r mannau gollwng.
Mae hon yn ardal brysur o’r ddinas ac mae’n debyg fydd y gwaith yn achosi darfu dros dro.
Dywedodd Cyng Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywiad “Bydd ein gontractwyr yn gweithio mor ddiogel ac effeithiol â phosib, ac i’r safonau uchaf posibl er mwyn cwblhau’r gwaith cyn gynted ag y gallen.”
.Os ydych yn dymuno cysylltu mae’r manylion cyswllt ar gyfer y prosiect i’w cael isod:
wrecsam@alungriffiths.co.uk 0330 041 4638