Bydd llawer ohonom wedi bod yn defnyddio gwefannau sgwrsio, y cyfryngau cymdeithasol a gwefannau canlyn ar-lein yn fwy aml dros yr wythnosau diwethaf, gan ein bod wedi bod yn treulio mwy o amser adref na’r arfer.
Yn anffodus, mae troseddwyr wedi gweld cyfle yma i dwyllo a dwyn arian gan bobl â bwriadau da drwy smalio bod yn rhywun arall, a honni eu bod yn wynebu caledi ariannol oherwydd y sefyllfa bresennol gyda Covid-19.
Sgamiau rhamant
Yn ôl yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr, mae hyder cynyddol unigolion wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd i gyfarfod a siarad ag eraill yn eu gadael yn ddiamddiffyn.
Yn lleol, rydym wedi cael gwybod am achos lle y bu i unigolyn ofyn am arian gan fod y beilïaid am alw draw. Mewn achos arall, bu i ddynes ofyn am arian gan fod ei Nain wedi marw. Ymddengys bod yr achosion uchod yn sgamiau ac mae Action Fraud wedi cael gwybod amdanynt.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mae gwaith ymchwil o fewn un rhanbarth yn dangos bod dioddefwyr sgamiau rhamant yn cael eu paratoi a’u twyllo o £47,000 ar gyfartaledd. Am ragor o wybodaeth ynghylch hyn, edrychwch ar yr erthygl hon ar wefan Newyddion y BBC.
Cyngor Safonau Masnach Wrecsam
Mae nifer y sgamiau rhamant ar-lein wedi cynyddu, yn enwedig gan fod llawer o bobl yn teimlo mor ynysig yn ystod y cyfnod hwn. Yn anffodus, mae troseddwyr yn manteisio ar hyn ac yn gweld cyfle i ecsbloetio’r unigolion hynny sydd fwyaf diamddiffyn drwy greu perthynas ffug a meithrin eich ymddiriedaeth. Mae’r difrod sy’n gallu cael ei achosi gan y perthnasau ffug hyn yn enfawr, o ran eich cyllid personol a thrallod emosiynol. Peidiwch â bod yn ddioddefwr:
• Dewch i adnabod yr unigolyn, nid y proffil a gofynnwch ddigon o gwestiynau – peidiwch â rhuthro i berthynas ar-lein.
• Gwiriwch fod yr unigolyn yn berson go iawn drwy roi ei enw, llun proffil neu unrhyw ymadroddion a ddefnyddir dro ar ôl tro a’r term ‘sgâm / twyll cariad’ yn eich chwilotwr ar-lein.
• Siaradwch â’ch teulu neu ffrindiau hirdymor yr ydych yn ymddiried ynddynt am y mater – peidiwch ag ynysu eich hun. Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw un sy’n gofyn i chi beidio â dweud wrth eraill amdanynt.
• Peidiwch byth ag anfon arian at rywun yr ydych wedi’i gyfarfod ar-lein, waeth beth fo’r rheswm y mae’r unigolyn yn ei roi neu am ba hyd yr ydych wedi bod yn siarad â’r unigolyn. Os ydych chi’r credu eich bod yn ddioddefwr sgam, cysylltwch â’ch banc ar unwaith a rhowch wybod i’r heddlu.
• Parhewch i sgwrsio ar raglen negeseuon y wefan ganlyn nes eich bod yn hyderus bod yr unigolyn yn dweud y gwir am bwy ydyw.
• Gwyliwch nad ydych yn rhannu gormod o wybodaeth bersonol yn cynnwys eich dyddiad geni, cyfeiriad, gweithle ac amddiffynnwch fanylion eich teulu hefyd. Gallai datgelu gormod arwain at dwyll, dwyn hunaniaeth neu niwed personol.
Lle i fynd am gymorth
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim dros y ffôn ar 0808 1689 111 neu drwy sgwrs fyw 24 awr y dydd.
Os ydych chi wedi bod yn ddioddefwr o’r math hwn o sgâm, dylech roi gwybod i Action Fraud drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040. Action Fraud yw Canolfan Genedlaethol y DU ar gyfer Rhoi Gwybod am Dwyll a Throsedd.
Am gyngor ar sgamiau, cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 0808 223 1133.
Arhoswch yn ddiogel ac yn ymwybodol o sgamiau.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19
Gwasanaeth newydd i’w gwneud yn haws i roi gwybod am negeseuon e-bost amheus