Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyfarfod cyntaf Y Bwrdd Gweithredol i gael ei gynnal ers i’r pandemig gael ei ddatgan
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyfarfod cyntaf Y Bwrdd Gweithredol i gael ei gynnal ers i’r pandemig gael ei ddatgan
Y cyngor

Cyfarfod cyntaf Y Bwrdd Gweithredol i gael ei gynnal ers i’r pandemig gael ei ddatgan

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2020 12:34 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Children's Services
RHANNU

Bydd Cyngor Wrecsam yn cynnal cyfarfod cyntaf y Bwrdd Gweithredol ers i bandemig Covid-19 ddechrau ym mis Mawrth, gan amharu ar holl gyfarfodydd pwyllgor y Cyngor oedd wedi’u trefnu.

Bydd yn cael ei gynnal dros Zoom ddydd Mawrth 9 Mehefin, a bydd y rhaglen a’r holl bapurau ar gael ar-lein fel arfer ddydd Mercher, 3 Mehefin.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Ni fydd y cyfarfod cyntaf yn cael ei weddarlledu ond rydym yn gobeithio recordio’r cyfarfod gyda’r bwriad o’i gyhoeddi ar-lein yn nes ymlaen.

Mae Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard a’r Prif Weithredwr, Ian Bancroft yn cytuno fod hyn yn gam cadarnhaol ymlaen: “Tra bod swyddogion ac aelodau wedi bod yn eithriadol o brysur yn y cefndir yn sicrhau fod gwasanaethau hanfodol yn parhau i weithio ac ymateb i anghenion ein preswylwyr mwyaf diamddiffyn, gallwn ddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol.

“Erbyn hyn, mae hi’n amser ailddechrau ein hamserlen ar gyfer cyfarfodydd amrywiol y Cyngor, er bod hyn yn digwydd mewn modd cryn wahanol.

“Trwy ddefnyddio Zoom, caiff holl aelodau’r Cyngor, 52 ohonynt, y cyfle i gymryd rhan yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol. Gan fod y mathau yma o gyfarfodydd yn debygol o fod yn arferol am gryn amser, rydym yn edrych ymlaen at eu darlledu’n fyw yn y dyfodol.

“Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bawb, ond rydym eisiau rhoi cyfle i bobl gael dweud eu dweud, ac i wybod fod y broses ddemocrataidd yn parhau”.

“Fe hoffem ddiolch i bawb, yr aelodau, staff a’r cyhoedd. Mae eu cefnogaeth a’u gwytnwch wedi ein helpu drwy’r misoedd diwethaf.

Mae aelodau o’r wasg wedi cael gwahoddiad i arsylwi ar-lein a gellir anfon cwestiynau’r cyhoedd ac aelodau yn unol â’n cyfansoddiad. Cewch fwy o wybodaeth yma:

https://www.wrexham.gov.uk/welsh/council_w/committees_new/public_questions.htm.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Solihull Cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim i rieni a darpar rieni yn Wrecsam
Erthygl nesaf Warning issued around ‘loneliness’ lockdown scams Rhybudd ynghylch sgamiau ‘unigrwydd’ yn ystod cyfyngiadau ar symud

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English