Mae Wrecsam yn nodi Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad eleni gydag arddangosfa newydd yn yr amgueddfa:
Rhyfeloedd Angof : Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig o gwmpas y Byd.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae coffadwriaethau wedi canolbwyntio’n bennaf ar y Rhyfel Byd Cyntaf, ond dros y canrifoedd roedd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a fu’n recriwtio’n drwm ledled gogledd Cymru ac a oedd wedi’u lleoli yn Wrecsam, yn cael eu galw i frwydro mewn rhyfeloedd ym mhob cwr o’r byd. Aeth milwyr o ogledd Cymru i ymladd yn Affrica, America, Asia ac Ewrop.
Mae nifer o’r rhyfeloedd hyn yn droednodiadau mewn llyfrau hanes ac yn aml mae eu cofebion a welir ar ein strydoedd ac yn ein heglwysi yn cael eu hanwybyddu neu eu hanghofio’n llwyr hyd yn oed. Fodd bynnag, mae’r rhyfeloedd hyn yn cael eu cofio mewn gwledydd eraill ac mae’r arddangosfa hon yn tynnu sylw at yr hanes byd-eang hwn sy’n rhan o hanes Wrecsam a Chymru.
“Dyma rai o uchafbwyntiau’r arddangosfa:”
- Medalau ymgyrchoedd Rhyfel y Crimea, Rhyfel De Affrica a’r Rhyfelgyrch Rhyngwladol i Pecin yn 1900.
- Llythyr am Florence Nightingale
- Arfau traddodiadol o dalaith ar ffin ogledd-orllewinol yr Ymerodraeth Indiaidd
- Lifrai Milwr Prydeinig o reng arall o’r 19eg ganrif
- Cap herwfilwr comiwnyddol Tsieineaidd o Argyfwng Malaya.
- Llyfr braslunio o’r ymfyddiniad yn Bosnia-Herzegovina
Bydd yr arddangosfa yn agor / Agorodd yr arddangosfa ar 8 Tachwedd 2019 a bydd ymlaen am flwyddyn. Mae mynediad yn rhad ac am ddim.
Dywedodd y Cadfridog Jonathon Riley, comander lluoedd yr Awyrlu yn Bosnia-Herzegovina, awdur a hanesyddol milwrol: “Mae ffocws y pum mlynedd ddiwethaf ar y Rhyfel Mawr yn ein hatgoffa ni nad ydi amser yn lleihau maint yr aberth gan filwyr er mwyn eu gwlad. Fel yn yr 21ain Ganrif, mae ein milwyr ni wedi bod mewn rhyfeloedd ar draws y byd, ac fe alwyd ar genedlaethau’r gorffennol i wneud yr un peth. Mae’r arddangosfa hon yn ein hatgoffa ni o hynny.”
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch yr amgueddfa ar 01978 297 460.