Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhywfaint o gyngor lles ar gyfer cyfnod anarferol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Landlords
Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Rhywfaint o gyngor lles ar gyfer cyfnod anarferol
Pobl a lle

Rhywfaint o gyngor lles ar gyfer cyfnod anarferol

Diweddarwyd diwethaf: 2020/04/02 at 12:45 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Some wellbeing tips for an unusual time
RHANNU

Yn sicr mae hi’n gyfnod anarferol i ni gyd, gyda chyngor y Iechyd Cyhoeddus Cymru i aros gartref ac ond i adael y tŷ am nifer cyfyngedig iawn o resymau.

Mae’n bwysig iawn ein bod yn dilyn y cyngor hwn, ond bydd rhai ohonom yn cael hyn yn anodd iawn felly mae’n bwysig ein bod yn gofalu am ein lles ein hunain dros yr wythnosau nesaf.

Mae Mind wedi llunio nifer o awgrymiadau gwych i bobl eu dilyn ac rydym am fynd trwy rhai ohonynt a all fod yn ddefnyddiol.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Gofalu am eich iechyd meddwl a lles

• Bwyta’n dda ac yfed digon o ddŵr. Mae meddwl am eich diet yn bwysig iawn, yn enwedig os ydych yn debygol o fod yn llai actif na’r arfer. Sicrhewch eich bod yn yfed digon o ddŵr hefyd, sy’n bwysig i’ch iechyd meddwl a’ch iechyd corfforol.

• Parhau i gymryd eich meddyginiaeth. Mae hyn yn bwysig iawn. Os ydych yn ynysu, ystyriwch ofyn i’ch fferyllfa ddanfon eich meddyginiaeth, neu ofyn i rywun arall ei gasglu i chi.

• Golchi dwylo a gor-bryder. Gall rhai problemau iechyd meddwl achosi teimladau ac ymddygiad anodd sy’n ymwneud â golchi neu hylendid. Gall ymarferion anadlu eich helpu i ddygymod a theimlo mewn mwy o reolaeth.

• Cadw mewn cysylltiad yn ddigidol. Meddyliwch am ffyrdd eraill i gadw mewn cysylltiad â phobl tra nad yw’n bosib cyfarfod rhywun yn gorfforol. Gwnewch gynlluniau i sgwrsio ar fideo gyda phobl neu grwpiau y byddech fel arfer yn eu gweld wyneb yn wyneb.

• Penderfynwch ar eich trefn. Meddyliwch sut y byddwch yn treulio amser ar ben eich hun gartref. Er enghraifft, trefnwch weithgareddau i’w gwneud ar wahanol ddiwrnodau neu arferion rydych eisiau eu dechrau neu barhau gyda nhw.

• Ceisiwch gadw yn actif. Cynnwys gweithgarwch corfforol yn eich trefn ddyddiol, os yw’n bosib. Mae glanhau eich cartref, dawnsio i gerddoriaeth, a mynd i fyny ac i lawr y grisiau yn rai o’r ffyrdd o wneud hyn.

• Os ydych yn teimlo’n glawstroffobig neu’n gaeth. Agorwch y ffenestri i adael awyr iach i mewn. Neu beth am dreulio amser yn eistedd ar eich carreg drws, neu yn yr ardd os oes gennych un. Mae newid yr ystafelloedd rydych y treulio amser ynddynt hefyd o gymorth.

Mae’r rhain yn rhai o’r ffyrdd y gallwch ofalu am eich lles dros yr wythnosau nesaf. Am gyngor manylach, ewch i wefan Mind.

Arhoswch yn ddiogel ac yn iach ????

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Safeguarding Neges gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru
Erthygl nesaf Dementia Cymorth i bobl sy’n gofalu am rywun gyda dementia

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Landlords
Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall Awst 12, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 12, 2025
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 12, 2025
Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
Lucy Cowley
DigwyddiadauPobl a lle

Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni

Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English