“Rydym yn gadael y label wrth y drws. Mae pwyslais ar yr hyn y gallwn ei wneud NID ar yr hyn na allwn ei wneud.”
Dyma yw mantra SWS (Gwasanaethau Safonau Wrecsam), sef grŵp o breswylwyr sydd wedi cael eu hatgyfeirio, ac yn gweithio gydag adran gofal cymdeithasol i oedolion Cyngor Wrecsam.
Mae SWS eisiau gwella bywydau’r unigolion hynny ag anableddau yn Wrecsam ac mae llawer o brosiectau y maent yn gweithio arnynt i wneud bywydau yn haws.
Er bod y grŵp yn cynnwys pobl wedi eu hatgyfeirio gan ofal cymdeithasol oedolion, mae’r gwaith a wnânt ar gyfer pawb yn Wrecsam. Un o’r prosiectau y maent wedi bod yn gweithio arnynt yw <a href=”https://www.facebook.com/YrBothWrecsam/”>The Friendship Hub</a>. Dyma dudalen Facebook y gall unrhyw un gael mynediad iddi ac mae’n llawn o weithgareddau a syniadau i bobl ag anableddau a’u cefnogwyr. Mae wedi cael ei ddatblygu ar ôl i lawer o bobl ddweud bod safleoedd eraill yn cynnwys y gwasanaeth yn anodd eu defnyddio yn enwedig ar gyfer unigolion sydd yn methu darllen ac/neu ddim yn hyddysg mewn cyfrifiadura. Mae’r dudalen yn hawdd i’w defnyddio a dylai olygu bod pawb yn gallu cael mynediad i wybodaeth.
Mae SWS hefyd wedi edrych ar gael mwy o lefydd yn Wrecsam yng nghanllaw Euan. Dyma ganllaw ar-lein sy’n edrych ar hygyrchedd mewn llefydd fel tafarndai, sinemâu, siopau, llwybrau cerdded a banciau fel bod yr unigolion hynny ag anableddau yn gallu eu defnyddio yn hyderus. Byddant hefyd yn gweithio gyda’r lleoliadau eu hunain i wella pethau lle bynnag y bo hynny’n bosib.
Mae’r grŵp hefyd yn gwneud ffilm gyda’r Prosiect Ffilm Iris yng Nghaerdydd am dderbyn rhywioldeb ac anabledd – yn arbennig sut mae’n teimlo i fod yn Bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsryweddol ac i fod yn anabl.
Ac, fel bod y grŵp ddim digon prysur yn barod, maent hefyd wedi sefydlu Fy Staff, Fy Marn. Mae’n rhoi’r cyfle i bobl sy’n derbyn cymorth gan wasanaethau cymdeithasol i gyfweld y bobl hynny fydd yn eu helpu nhw, dyma ffordd dda iawn o sicrhau cydweddoldeb rhwng y person a’u gofalwr.
Meddai Nicole Mitchell-Meredith sy’n gweithio gyda’r grŵp ar ran Cyngor Wrecsam: “Rwy’n cefnogi SWS trwy roi cyngor i’r grŵp hynny o bobl sy’n credu fod diffyg cyngor ar gael. Mae’n cael ei arwain ganddynt hwy yn hytrach na Chyngor Wrecsam ac yn gyfle iddyn nhw gefnogi eu gilydd i wneud cysylltiadau cymdeithasol ac i wneud gwahaniaeth i bobl Wrecsam.”
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT