Mae dwy swydd wag ar restr ganolog panel maethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Mae paneli maethu’n cyflawni swyddogaeth annibynnol bwysig wrth ystyried ceisiadau i fod yn ofalwyr maeth, a gwneud argymhellion ynghylch addasrwydd ymgeiswyr i gael eu cymeradwyo i fod yn ofalwyr maeth cofrestredig gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae aelodau’r panel yn greiddiol i’r gwaith o ystyried gwybodaeth ac asesiadau manwl ynghylch darpar ofalwyr maeth posibl a’u teuluoedd sy’n dymuno gofalu am blant a phobl ifanc Wrecsam. Hefyd, mae aelodau’r panel yn adolygu addasrwydd cofrestriad a chymeradwyaeth barhaus gofalwyr maeth presennol, ac yn rhoi adborth i wasanaethau maethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel rhan o’u swyddogaeth sicrhau ansawdd.
Mae rhestr ganolog y panel maethu yn gyfrifoldeb pwysig, ac mae gweithwyr proffesiynol o faes y gyfraith a’r byd meddygol yn cynorthwyo aelodau’r panel gyda’r gwaith.
I fod yn gymwys i fod yn aelod annibynnol o’r panel, ni allwch fod yn ofalwr maeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar hyn o bryd, nac yn perthyn i un o weithwyr y gwasanaeth maethu neu i unrhyw unigolyn sydd ynghlwm â’r gwaith o reoli’r gwasanaeth. Bydd gennych brofiad perthnasol neu ddealltwriaeth o anghenion plant a phobl ifanc ac o’r rhinweddau a’r nodweddion y mae angen i ofalwr maeth feddu arnynt. Efallai y bydd gennych brofiad o fod yn blentyn sy’n derbyn gofal, neu brofiad o faethu mewn rhyw fodd, yn bersonol neu yn rhinwedd eich swydd.
Byddwn yn darparu hyfforddiant ar gyfer y swydd fydd yn cynnwys sesiwn gynefino a chefnogaeth a chyfleoedd dysgu parhaus. Cynigir tâl cydnabyddiaeth i aelodau annibynnol er mwyn eu digolledu am yr amser a’r costau a achosir wrth gefnogi’r panel.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn datblygu, ac mae hwn yn gyfnod cyffrous i fod yn rhan o’r daith ac i gynorthwyo gyda’r gwaith o sicrhau twf a diogelwch parhaus i blant a phobl ifanc Wrecsam.
Os hoffech drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Zoe Brennan ar 01978 295310/295329. Zoe.brennan@wrexham.gov.uk
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF