Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen RYDYM YN CHWILIO AM AELODAU ANNIBYNNOL I’N PANEL MAETHU
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > RYDYM YN CHWILIO AM AELODAU ANNIBYNNOL I’N PANEL MAETHU
Y cyngor

RYDYM YN CHWILIO AM AELODAU ANNIBYNNOL I’N PANEL MAETHU

Diweddarwyd diwethaf: Mai 18, 2021 4:13 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
RYDYM YN CHWILIO AM AELODAU ANNIBYNNOL I'N PANEL MAETHU
RHANNU

Mae dwy swydd wag ar restr ganolog panel maethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Mae paneli maethu’n cyflawni swyddogaeth annibynnol bwysig wrth ystyried ceisiadau i fod yn ofalwyr maeth, a gwneud argymhellion ynghylch addasrwydd ymgeiswyr i gael eu cymeradwyo i fod yn ofalwyr maeth cofrestredig gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae aelodau’r panel yn greiddiol i’r gwaith o ystyried gwybodaeth ac asesiadau manwl ynghylch darpar ofalwyr maeth posibl a’u teuluoedd sy’n dymuno gofalu am blant a phobl ifanc Wrecsam. Hefyd, mae aelodau’r panel yn adolygu addasrwydd cofrestriad a chymeradwyaeth barhaus gofalwyr maeth presennol, ac yn rhoi adborth i wasanaethau maethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel rhan o’u swyddogaeth sicrhau ansawdd.

Mae rhestr ganolog y panel maethu yn gyfrifoldeb pwysig, ac mae gweithwyr proffesiynol o faes y gyfraith a’r byd meddygol yn cynorthwyo aelodau’r panel gyda’r gwaith.

I fod yn gymwys i fod yn aelod annibynnol o’r panel, ni allwch fod yn ofalwr maeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar hyn o bryd, nac yn perthyn i un o weithwyr y gwasanaeth maethu neu i unrhyw unigolyn sydd ynghlwm â’r gwaith o reoli’r gwasanaeth.   Bydd gennych brofiad perthnasol neu ddealltwriaeth o anghenion plant a phobl ifanc ac o’r rhinweddau a’r nodweddion y mae angen i ofalwr maeth feddu arnynt.  Efallai y bydd gennych brofiad o fod yn blentyn sy’n derbyn gofal, neu brofiad o faethu mewn rhyw fodd, yn bersonol neu yn rhinwedd eich swydd.

Byddwn yn darparu hyfforddiant ar gyfer y swydd fydd yn cynnwys sesiwn gynefino a chefnogaeth a chyfleoedd dysgu parhaus. Cynigir tâl cydnabyddiaeth i aelodau annibynnol er mwyn eu digolledu am yr amser a’r costau a achosir wrth gefnogi’r panel.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn datblygu, ac mae hwn yn gyfnod cyffrous i fod yn rhan o’r daith ac i gynorthwyo gyda’r gwaith o sicrhau twf a diogelwch parhaus i blant a phobl ifanc Wrecsam.

Os hoffech drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Zoe Brennan ar 01978 295310/295329.  Zoe.brennan@wrexham.gov.uk

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Physiotherapy Mae’r tîm arloesol yn Wrecsam yn darparu cymorth ar gyfer pobl gyda dementia
Erthygl nesaf Lansio adnoddau Yn ôl i Fywyd Cymunedol i helpu pobl ar ôl COVID-19 Lansio adnoddau Yn ôl i Fywyd Cymunedol i helpu pobl ar ôl COVID-19

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English