Yma yn swyddfa’r wasg y Cyngor rydym yn chwilio am brentis arbennig iawn i ymuno â’n tîm.
Byddwch yn ein helpu i ysgrifennu erthyglau ar gyfer y blog newyddion hwn ac ar gyfer y wasg, diweddaru ein safleoedd cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu erthyglau ar gyfer cylchgronau a phapurau newydd, helpu i ddadansoddi a gwerthuso’r sylw a roddir i ni yn y wasg a mynychu cyfarfodydd a sesiynau briffio. Byddwch hefyd yn helpu gyda threfnu digwyddiadau yn ôl y gofyn.
Mae isafswm o ran cymwysterau a bydd angen i chi fod yn siaradwr Cymraeg a meddu ar 5 TGAU gradd C neu gyfystyr â hynny gan gynnwys Saesneg a Mathemateg.
Dylech hefyd fod yn frwdfrydig ac egnïol, yn mwynhau gweithio gyda phobl a dysgu sgiliau newydd, yn dda yn trefnu eich amser eich hun, yn gallu cadw amser yn dda, â’r gallu i gwrdd â thargedau a therfynau amser, yn gallu gweithio ar eich pen eich hun yn ogystal â bod yn chwaraewr tîm, yn ddibynadwy ac â pharch tuag at eraill.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Darperir hyfforddiant a byddwch yn astudio gydag ITEC am eich NVQ Diploma Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes, Cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif Lefel 1, Cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu Lefel 1, Cymhwyster Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol Lefel 1 a byddwch hefyd yn derbyn hyfforddiant Stiwardio.
“cyfle cyffrous”
Dywedodd Sue Wyn Jones, Arweinydd Brand, Digidol a Chyfathrebu am y brentisiaeth:
“Dyma gyfle cyffrous i siaradwr Cymraeg brwdfrydig ac egnïol i ddod yn rhan o fyd y cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus a dod yn rhan o dîm dynamig sy’n gweithio yng nghanol y Cyngor. Mae popeth yr ydym yn ei wneud yn ddwyieithog ac mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y brentisiaeth hon.”
Os ydych yn llwyddiannus gallwch ddechrau gyda ni fis Hydref. Medi 19 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ac felly os oes gennych awydd dysgu sut i weithio gyda’r cyfryngau ac ennill cymhwyster ar yr un pryd mewngofnodwch ar wefan Gyrfa Cymru:
Os cewch eich cynnwys ar y rhestr fer am gyfweliad fe gewch wahoddiad am gyfweliad yn Neuadd y Dref. Yn y cyfweliad gofynnir i chi roi cyflwyniad byr ar bwnc a gaiff ei roi i chi ymlaen llaw cyn y cyfweliad. Bydd cyfweliad wyneb yn wyneb mwy ffurfiol yn dilyn hynny. Bydd rhan o’r cyfweliad yn y Gymraeg oni bai fod yr ymgeisydd yn dymuno i’r cyfweliad cyfan gael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI