Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rydym yn chwilio am reolwr TGCh
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Rydym yn chwilio am reolwr TGCh
Busnes ac addysg

Rydym yn chwilio am reolwr TGCh

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 13, 2019 11:25 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrexham Council ICT manager job
RHANNU

Nid yw’r ffaith eich bod yn gweithio ym maes TGCh yn golygu mai swydd yn Llundain yw eich breuddwyd, yn arbennig os oes gennych ymrwymiadau y tu allan i’r gwaith – teulu, hobïau, diddordebau.

Cynnwys
  • Rydym yn chwilio am reolwr TGCh
  • Gyrfa sy’n rhoi llawer o foddhad + chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
  • “Mae yna ddigon o amrywiaeth!”
  • Sut i wneud cais

Os ydych yn dyheu am swydd nad yw’n cynnwys dwy awr o deithio yna gall eich swydd nesaf fod yn agosach at adref nag yr oeddech yn feddwl.

Rydym yn chwilio am reolwr TGCh

Fel mae’n digwydd, mae gennym swydd wag TGCh yma yng Nghyngor Wrecsam. Rydym yn chwilio am Bennaeth Gwasanaeth TGCh newydd.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Cymru, Swydd Gaer, Swydd Amwythig neu Gilgwri, mae’n debyg eich bod o fewn pellter teithio hawdd (mae gan Wrecsam gysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd da iawn).

 

Gyrfa sy’n rhoi llawer o foddhad + chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

Mae yna ddigon o foddhad swydd gyda’r rôl hon (darllenwch ein herthygl flaenorol am fwy o wybodaeth).

Os ydych yn chwilio am gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, mae yna ddigon o resymau dros ymgeisio.

Er enghraifft, mae ein cynllun gweithio’n hyblyg yn golygu y gallwch symud oddi wrth y 9 tan 5 a gorffen yn gynnar un diwrnod ac yn hwyrach ar ddiwrnod arall. Mae’n ymwneud â darparu gwasanaethau ac ymateb i anghenion ein preswylwyr ond mae hyblygrwydd yn gweithio’r ddwy ffordd.

Byddwch hefyd yn cael gwyliau hael, mynediad i gynllun pensiwn a buddiannau gweithwyr eraill.

“Mae yna ddigon o amrywiaeth!”

Mae Emma wedi gweithio o fewn TGCh Cyngor Wrecsam ers 12 mlynedd.

Dywedodd: “Yn bendant mae yna ddigon o amrywiaeth o fewn TGCh yn y sector cyhoeddus!

“Mae Cynghorau yn cynnig cymaint o wasanaethau; rydych yn herio eich hun yn gyson i ddod o hyd i atebion a syniadau newydd sy’n gallu helpu cydweithwyr a chwsmeriaid.

“Rydych bob amser yn dysgu ac yn ehangu eich gwybodaeth, ond nid yw’r swydd yn cymryd drosodd eich bywyd. Mae Gweithio’n Hyblyg a buddion eraill yn ei gwneud yn haws i reoli eich amser gyda theulu, ffrindiau a bywyd y tu allan i’r gwaith.

“Mae hynny’n golygu llawer.”

Sut i wneud cais

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Mehefin 2019 felly os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ‘Thîm Wrecsam’, ewch amdani.

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer sgwrs anffurfiol am y swydd ewch i’n gwefan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/ict-lead.htm”] IE…DANGOSWCH Y SWYDD I MI! [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Find my Past Edrych i’ch gorffennol
Erthygl nesaf Jazz yn dod i Tŷ Pawb Jazz yn dod i Tŷ Pawb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith

Medi 15, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English